05 Medi 2018
Bydd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn gyfnod o fuddsoddiad sylweddol yn ein rheilffyrdd, a gyda chwe wythnos i fynd hyd nes y bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau rhedeg gwasanaeth trenau Cymru a’r Gororau, rydym yn awyddus i rannu’r diweddaraf am y gweddnewidiad cyffrous hwn. Mae’r paratoadau yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn gweithio gyda chwmni Trenau Arriva Cymru i sicrhau proses bontio ddidrafferth.Dyma rai o’r newidiadau a welwch o’r Diwrnod Cyntaf.
Brandio newydd
Byddwch yn dechrau gweld brand Trafnidiaeth Cymru yn ymddangos ar wisg y staff, mewn gorsafoedd ac ar ambell drên yn ogystal ag ar bosteri a thaflenni gwybodaeth.
Hefyd, byddwn yn lansio gwefan ac ap newydd i gwsmeriaid ar 15 Hydref.
Wrth i’r gweddnewidiad barhau, bydd y brand yn ymddangos ar drenau newydd hefyd.
Staff
Er y bydd gwisgoedd ein holl staff yn newid ar 15 Hydref i gynnwys brand Trafnidiaeth Cymru, rydym yn bwriadu cyflwyno gwisg newydd ar ôl trin a thrafod yn llawn â staff.
Y Gymraeg
Byddwn yn ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg ac yn darparu mwy o gymorth hyfforddiant i staff sydd am ddysgu Cymraeg.
Gorsafoedd
Mae gennym raglen buddsoddi mewn gorsafoedd sylweddol ar y gweill, a byddwch yn dechrau gweld brand Trafnidiaeth Cymru yn ymddangos mewn gorsafoedd. Hefyd, byddwn yn glanhau ein gorsafoedd yn drylwyr ac yn cychwyn y rhaglen hon ym mis Rhagfyr 2018.
Trenau
Rydym yn bwriadu disodli ein holl drenau erbyn 2023. Yn y cyfamser, byddwn yn cyflwyno rhai trenau newydd i wella gwasanaethau ac efallai y gwelwch chi rai trenau wedi’u hailfrandio dros dro hefyd.
Gwasanaethau newydd
Teithwyr y Gogledd sydd fwyaf tebygol o elwa’n gyntaf ar nifer o wasanaethau trenau newydd sydd ar y gweill gan Trafnidiaeth Cymru.
Rydym yn anelu at gyflwyno gwasanaethau newydd o fis Mai 2019 rhwng Caer a Liverpool Lime Street ac ehangu dau o’r gwasanaethau hyn hefyd i wasanaethu Wrecsam.
Y bwriad oedd cyflwyno’r gwasanaethau rhwng Caer a Liverpool Lime Street o fis Rhagfyr 2018, ond gan fod yna broblemau gyda’r cerbydau sydd ar gael rydym nawr yn bwriadu cyflwyno’r rhain a’r gwasanaethau estynedig o fis Mai 2019. Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod cerbydau ar gael a bod yr amserlen yn gallu cynnwys y gwasanaethau ychwanegol hyn.
Hefyd, rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau rhai gwasanaethau ychwanegol ar ddyddiau Sul yn y Gogledd, yn ogystal â rhai gwasanaethau cynharach yn ystod yr wythnos yn y De o fis Rhagfyr 2018.
Mae gwasanaethau’r Gogledd yn cynnwys:
- Gwasanaethau ychwanegol ar ddyddiau Sul rhwng Wrecsam Cyffredinol a Bidston.
- Gwasanaeth ychwanegol o Gyffordd Llandudno i Gaer.
Mae gwasanaethau’r De yn cynnwys:
- Gwasanaethau ar ddydd Sul rhwng Aberdâr a Chaerdydd.
- Gwasanaethau cynharach yn ystod yr wythnos o Aberdâr a Merthyr Tudful i Gaerdydd.
Byddwn yn cadarnhau manylion y gwasanaethau hyn cyn gynted ag y gallwn.