Skip to main content

Metro Transformation Works Update

01 Meh 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau cam cyntaf trydaneiddio Metro De Cymru yn llwyddiannus ac wedi symud ymlaen gyda thrawsnewid gorsafoedd a gwaith gosod signalau.

Bydd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Phontypridd yn agor ar 5 Mehefin. 

Fodd bynnag, bydd gwaith peirianneg trawsnewidiol ar linellau Aberdâr a Merthyr yn parhau tan 12 Mehefin.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith, gan y gallai fod newidiadau i'r amserlen a bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn parhau i redeg er mwyn cadw cwsmeriaid i symud.

Cyn y gyngerdd Coldplay yng Nghaerdydd ar 6 a 7 Mehefin, hysbysir cwsmeriaid na fydd trenau yn teithio i’r gogledd o Bontypridd (Llinellau Treherbert a Merthyr Tudful) ac Aberpennar (Llinell Aberdâr).  Gan y bydd y gwasanaethau bws yn lle trên yn brysur, dylai cwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw.

Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith, gyda newidiadau i wasanaethau rheilffordd ym Mhontypridd / Aberpennar.  Cytunwyd hefyd y bws cwmni bws Stagecoach yn derbyn tocynnau ar y gwasanaethau isod: 

  • T4 Merthyr – Caerdydd
  • 60/61 – Aberdâr i Bontypridd
  • 120 -130 – Treherbert - Pontypridd
  • 132 – Pontypridd - Porth

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, defnyddiwch Journey Checker neu ewch i'n gwefan trc.cymru

Hefyd, o 5 Mehefin, bydd newidiadau i amserlen y gwasanaeth bws yn lle trên newydd yn Nhreherbert ac anogir cwsmeriaid unwaith eto i gynllunio ymlaen llaw a gwirio cyn teithio.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym wedi cymryd cam enfawr ymlaen yn darparu Metro De Cymru ac wedi trydaneiddio'r rheilffordd yn y cymoedd.  Yn y dyfodol agos, bydd hyn yn ein galluogi i redeg gwasanaethau cyflymach, glanach a mwy effeithlon.

“Byddwn hefyd yn ailagor y llinell rhwng Caerdydd a Phontypridd ar 5 Mehefin.

“Yn anffodus, mae dal rhywfaint o waith peirianneg i'w wneud o hyd wrth i ni gwblhau'r holl wiriadau sy'n angenrheidiol er mwyn ein galluogi i ailagor y seilwaith yn ddiogel.

“Rydym yn deall y bydd y ffaith ein bod yn gorfod ymestyn y gwasanaethau bws yn lle tren ymhellach yn rhwystredig i deithwyr, yn enwedig gyda digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

“Mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn ymgyfarwyddo ag amserlenni'r gwasanaethau bws yn lle trên fel y gallan nhw fynd i’r digwyddiad a mynd adref yn ddiogel.  Mae gennym hefyd drefniant gyda gwasanaethau bysiau lle byddant yn derbyn tocynnau trên; rydym yn cynghori cwsmeriaid i fanteisio ar y trefniant lle bo'n bosibl."

“Mae ein holl dimau yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid.”

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, defnyddiwch Journey Checker neu ewch i'n gwefan trc.cymru

 

Llwytho i Lawr