03 Gor 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhoi diweddariad clir i bob defnyddiwr trafnidiaeth gyhoeddus yn dilyn newidiadau mewn cyngor gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol yn unig a lle nad oes dewisiadau teithio eraill ar gael.
Ddydd Sadwrn yma, bydd rhai tafarndai’n ailagor yn Lloegr. Yn ogystal, o ddydd Llun ymlaen yng Nghymru, bydd y rheolau’n newid i ganiatáu i bobl o ddwy aelwyd ar wahân ffurfio un aelwyd estynedig, unigryw. O ddydd Llun hefyd byddwn yn gweld diwedd y canllawiau pum milltir ‘aros yn lleol’.
Rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn hybu mwy o deithio, felly mae TrC yn atgyfnerthu’r neges y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol yn unig. Pwrpas hyn yw sicrhau bod digon o le i weithwyr allweddol a’r rheini sydd heb ddewis arall barhau i deithio’n ddiogel.
Mae TrC eisoes wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol yn eu gorsafoedd ac ar eu trenau gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol, systemau unffordd, glanhau ychwanegol ac mae’n annog pobl i ddilyn cyngor y llywodraeth ynghylch gorchuddion wyneb.
Maen nhw hefyd yn treialu ’gwiriwr capasiti’ a fydd yn galluogi teithwyr i gynllunio eu teithiau ar sail pa mor brysur yw’r trenau. Mae hyn yng nghamau cynnar y datblygiad a bydd yn gwella’n raddol dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Ein prif flaenoriaeth bob amser yw diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid.
“Mae Covid-19 yn sefyllfa sy’n esblygu a thros yr wythnos nesaf mae newidiadau pwysig mewn cyngor gan lywodraethau’r DU a Chymru. Fodd bynnag, mae angen inni atgyfnerthu ein hymgyrch teithio’n saffach gan dynnu sylw at y ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol a lle nad oes dewisiadau teithio eraill ar gael.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn diweddaru ei hamserlen ar sail newidiadau posibl yn nifer y bobl sy’n teithio ac mae’n annog pobl i gadw golwg ar eu taith ymlaen llaw drwy fynd i https://trc.cymru/.
Nodiadau i olygyddion
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cael ei ddiweddaru Teithio'n Saffach
Cadw’n saff - peidiwch â theithio dim ond os yw’n hanfodol er mwyn helpu pobl eraill nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis arall a pheidiwch â theithio os ydych chi’n teimlo’n sâl. |
Ceisiwch osgoi cyfnodau prysur – ceisiwch beidio â chyffwrdd unrhyw arwyneb fel botymau, drysau neu eich wyneb a cheisiwch osgoi bwyta. |
Dilynwch ein cyngor diweddaraf ar deithio – cadwch 2 fetr oddi wrth bobl eraill, golchwch eich dwylo’n rheolaidd ac ystyriwch wisgo masg. |
Cadwch yn heini wrth deithio – os yw’ch taith yn fyr, ceisiwch gerdded neu feicio os gallwch chi |
Parchwch ein staff a’r teithwyr eraill bob amser |