Skip to main content

Storm Goretti update: Check before travelling with rail service alterations in place as Transport for Wales and Network Rail prepare for Storm Goretti

08 Ion 2026

Cynghorir teithwyr rheilffordd i wirio cyn teithio ddydd Iau 8 Ionawr a dydd Gwener 9 Ionawr wrth i Storm Goretti ddod â rhybuddion tywydd garw ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Gellir dod o hyd i wybodaeth gyfredol am wasanaethau rheilffordd yn https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/pob-diweddariad 

Mae newidiadau i wasanaethau eisoes ar waith a byddant yn parhau tan ddydd Gwener 9 Ionawr.

Bydd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno newidiadau i wasanaethau a byddant yn cau rhannau o'r rhwydwaith rheilffyrdd wrth i amodau'r tywydd waethygu, er mwyn cadw teithwyr a staff yn ddiogel.

Mae rhybudd tywydd melyn am eira ar waith o 15:00 ddydd Iau tan 12:00 ddydd Gwener, gyda hyd at 20cm o eira yn bosibl mewn rhai ardaloedd.

Rhagwelir gwyntoedd cryfion o 40-50mya hefyd, gan gynyddu'r risg o goed wedi disgyn ac aflonyddwch ychwanegol. Gall eira hefyd droi'n eirlaw neu law ar adegau, gan ddod â risg o lifogydd lleol.

Gall eira, rhew a thymheredd rhewllyd effeithio'n sylweddol ar y rheilffordd, yn enwedig pwyntiau, offer signalau a chyflyrau'r trac.

Ni fydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn gallu rhedeg yn ystod yr adeg yma oherwydd amodau'r ffyrdd.

Mae cydweithwyr Network Rail eisoes yn cymryd amrywiaeth o fesurau ataliol cyn y storm, gan gynnwys:

  • Archwilio safleoedd draenio allweddol i sicrhau eu bod yn glir
  • Gwirio systemau gwresogi pwyntiau, gan y gall pwyntiau dagio mewn amodau eira
  • Trefnu rhediadau ychwanegol o Drenau Trin Eira a Rhew ac aradr eira
  • Trefnu i dimau llif gadwyn fod ar shifft drwy gydol y storm i ymateb yn gyflym i goed sydd wedi cwympo

Mae cydweithwyr Trafnidiaeth Cymru hefyd yn paratoi ar gyfer y tywydd trwy sicrhau bod platfformau wedi'u graeanu, bod trenau'n barod ar gyfer amodau rhewllyd, a thrwy weithio'n agos gyda Network Rail i addasu patrymau gwasanaeth wrth i'r storm ddatblygu.

Cynghorir teithwyr yn gryf i:

  • Gwirio eu taith cyn teithio a thrwy gydol y dydd
  • Caniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau
  • Cymryd gofal ychwanegol wrth deithio i ac o orsafoedd, gan y gall platfformau, grisiau a meysydd parcio fod yn llithrig

Gellir defnyddio tocynnau trên ar gyfer dydd Iau 8 Ionawr ar gyfer teithio hyd at ddydd Sul 11 ​​Ionawr.

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr yn Network Rail Cymru a'r Gororau: “Disgwylir i Storm Goretti ddod ag amodau heriol o brynhawn dydd Iau a dros nos, gan gynnwys eira, iâ a gwyntoedd cryfion, a all gael effaith sylweddol ar y rheilffordd.

"Er y disgwylir i wasanaethau redeg fel arfer fore dydd Iau, o ganol y prynhawn ymlaen rydym yn rhagweld y bydd angen cau rhai llinellau i gadw teithwyr a'n cydweithwyr yn ddiogel.

“Diogelwch yw ein blaenoriaeth cyntaf, ac mae ein timau'n gweithio o gwmpas y cloc, ochr yn ochr â gweithredwyr trenau, i baratoi'r rhwydwaith ac ymateb yn gyflym wrth i amodau newid. Byddem yn annog teithwyr i wirio cyn iddynt deithio a chynllunio ymlaen llaw, yn enwedig nos Iau a bore dydd Gwener.”

Ychwanegodd Patrick Allinson, Pennaeth Gweithrediadau Rheoli yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym eisoes wedi gweld llawer o eira ar draws ein rhwydwaith ar ddechrau’r flwyddyn hon, a chyda rhagolygon y bydd Storm Goretti yn dod â mwy o amodau heriol.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Network Rail i fonitro’r sefyllfa ar draws y rhwydwaith. Rydym yn gofyn i deithwyr gymryd gofal ychwanegol wrth deithio i ac o orsafoedd, gan y gall platfformau, grisiau a meysydd parcio fod yn llithrig.

"Yn bwysicaf oll, dylai teithwyr wirio cyn teithio am y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a llwybrau rheilffordd.”

Dylai teithwyr wirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf yn: https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/pob-diweddariad 

Llwytho i Lawr