06 Rhag 2023
Ym mis Ionawr 2024, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu amlder gwasanaethau trên ar lein Caer i Lerpwl TrC (yn galw ym Maes Awyr Lerpwl), ac ar hyd cangen lein Glynebwy.
Bydd hyn yn golygu ychydig o oedi i'r cynllun gwreiddiol sef rhoi’r newidiadau ar waith o'r wythnos nesaf ymlaen (10 Rhagfyr 2023).
Yn dilyn y stormydd ym mis Tachwedd, mae olwynion nifer o'n trenau wedi cael eu difrodi a thrwy gydol mis Rhagfyr, byddwn yn rhoi rhaglen atgyweirio ar waith. Mae hyn er mwyn gallu sicrhau y bydd gan TrC ddigon o drenau ar gael i gefnogi cynyddu’r amserlenni ar lein Caer i Lerpwl, ac ar lein Casnewydd i Glyn Ebwy yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru:
“Mae gennym raglen gynhwysfawr ar waith ar gyfer atgyweirio'r olwynion sydd wedi'u difrodi ar y trenau yr effeithir arnynt; bydd y gwaith hwn yn cymryd y rhan fwyaf o fis Rhagfyr i'w gwblhau. Bydd hyn yn achosi ychydig wythnosau o oedi cyn y gallwn fynd ati i roi ein cynllun i gynyddu amlder y gwasanaethau hyn ar waith fel rhan o amserlen newydd Rhagfyr 2023.
“Mae ein peirianwyr yn gweithio mor gyflym ag y gallant i gwblhau'r gwaith trwsio hwn. Bydd hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i ddarparu'r gwasanaethau newydd yn ddibynadwy, gan sicrhau y bydd digon o gerbydau ar gael i ni."