25 Tach 2024
Mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio am y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio gan y bydd nifer o lwybrau ar draws Cymru a’r Gororau ar gau yfory (Tachwedd 25) oherwydd effaith Storm Bert.
- Ni fydd unrhyw wasanaethau rheilffordd rhwng Llanhiledd a Glynebwy ddydd Llun 25 Tachwedd, a bydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn gweithredu.
- Disgwylir i wasanaethau rheilffordd gael eu heffeithio'n ddifrifol ar y rheilffordd o Radur i Dreherbert/Aberdâr/Merthyr Tudful, gyda chapasiti bysiau yn lle trenau cyfyngedig ar gael.
- Bydd lein y Gororau rhwng Casnewydd a’r Amwythig ar gau tan o leiaf hanner dydd a bydd y ddarpariaeth ar gyfer bysiau yn lle trenau yn gyfyngedig iawn.
- Bydd rheilffordd Calon Cymru rhwng Amwythig a Llanwrtyd ar gau tan o leiaf hanner dydd ac mae rhai ffyrdd yn parhau i fod yn amhosib eu defnyddio ar y llwybr hwn, felly mae gwasanaethau newydd yn debygol o fod yn gyfyngedig iawn.
- O Lydney i Gaerloyw, mae'r rheilffordd ar gau ar hyn o bryd, a bydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau ar waith.
Bydd gwasanaethau rheilffordd ddydd Llun yn destun aflonyddwch parhaus ar draws y rhwydwaith, a allai arwain at oedi a chansladau ar fyr rybudd trwy gydol y dydd.
Mae peirianwyr Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn parhau i weithio rownd y cloc i ddelio ag effaith Storm Bert ar y rheilffordd.
Gellir defnyddio tocynnau ar gyfer dydd Llun 25 Tachwedd ar ddydd Mawrth 26 Tachwedd ac efallai y bydd modd derbyn tocyn gyda gweithredwyr eraill, dylai teithwyr wirio tfw.cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth lwyr o hyd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel i weithredu gwasanaethau. Oherwydd y tywydd eithafol a achosir gan Storm Bert rydym yn annog ein cwsmeriaid i wirio cyn iddynt deithio i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu. Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid am eu dealltwriaeth a’u hamynedd.”
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
Dylai cwsmeriaid Wirio Cyn Teithio yn: https://tocynnau.trc.cymru/#/all-updates
Mae llinellau cymorth gwerthu gwe TrC ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul: 08:00 i 22:00.
Gall cwsmeriaid hefyd edrych ar wefan TrC: https://trc.cymru/prynu-eich-tocyn/amseroedd-trenau-a-thocynnau-tren
Bydd gwybodaeth am wasanaethau hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy gyfrif TrC X: @tfwrail