Skip to main content

UPDATED: Transport for Wales makes bus pass application forms readily available for citizens

13 Medi 2019

Ar 11 Medi 2019, roedd cynghorau ledled Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wedi lansio un o’r rhaglenni mwyaf i ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda’r nod o adnewyddu’r holl gardiau bws gwyrdd ledled Cymru.  Mae nifer fawr iawn wedi ymateb ac mae miloedd o ddefnyddwyr bysiau eisiau gwneud cais am eu cardiau newydd ar unwaith.

DIWEDDARAF: Yn dilyn mwy o brofi, ers dydd Llun 23 Medi, mae're porth i ymgeisio am docynnau bws newydd nôl ar-lein. Mae'r porth ar gael yma: trc.cymru/cerdynteithio.

Blaenoriaeth Trafnidiaeth Cymru ydy sicrhau bod pobl yn cael y dewisiadau cyflymaf a mwyaf hwylus er mwyn adnewyddu eu cardiau bws. Ar ôl gwrando ar adborth gan bartneriaid yn Age Cymru a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sydd wedi gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru drwy gydol y prosiect yma, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n hawdd i bobl gael gafael ar ffurflenni cais.

Bydd ffurflenni cais yn cael eu dosbarthu o ganol wythnos nesaf ymlaen i’r rheini sydd eisoes wedi gofyn am ffurflen, ac mae fersiwn PDF ar gael yn barod ar wefan TrC, er mwyn i bobl allu eu hargraffu gartref.  Mae ffurflenni papur hefyd yn cael eu dosbarthu i bob swyddfa cyngor lleol er mwyn i bobl allu cael gafael arnyn nhw yn eu cymunedau lleol.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n gweithio gydag Age Cymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn i sicrhau ein bod yn cynnig y lefel iawn o gefnogaeth i’r rheini sydd â’r angen mwyaf. Yr adborth sydd wedi dod i law yw bod llawer o alw am gopïau papur o’r cais. Mae copïau papur bob amser wedi bod yn opsiwn i bobl er mwyn gwneud cais ac roedden nhw ar gael drwy gysylltu â’n desg gymorth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y pryderon sydd wedi cael eu codi gan bobl hŷn wythnos yma, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y copïau ar gael gan gynghorau lleol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ac mae hefyd yn bosibl i bobl lwytho copi i lawr o’n gwefan trc.cymru/cerdynteithio”.

Dywedodd Victoria Lloyd o Age Cymru: "Ar hyn o bryd byddem yn annog pobl hŷn i beidio â chynhyrfu wrth adnewyddu eu pasys. Nid yw'r dyddiad cau tan 31 Rhagfyr felly mae digon o amser i wneud y cais. Rydym yn falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod fersiynau papur o'r ffurflenni cais ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â nifer o elusennau sy'n cynorthwyo pobl hŷn.Os oes unrhyw un yn poeni am wneud cais, mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan linell gymorth Trafnidiaeth Cymru neu asiantaethau cefnogi eraill. "

Dywedodd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi dweud wrthyf eu bod yn dibynnu ar eu tocyn bws, sy'n eu galluogi i fynd allan, aros yn gymdeithasol, parhau i ymgysylltu â'u cymunedau a chael mynediad at wasanaethau hanfodol megis siopau a gwasanaethau iechyd.

"Gan y bydd y broses ymgeisio ar gyfer adnewyddu ar-lein yn bennaf, rhywbeth a fydd yn achosi rhywfaint o bryder i bobl hŷn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol gynnig help i bobl hŷn drwy ddarparu ffurflenni cais papur lle mae eu hangen, neu'r cymorth angenrheidiol fel y gellir cwblhau ceisiadau ar ran unigolyn os oes angen hynny."

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol, fel Age Cymru, i sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i’r rheini sy’n poeni am wneud cais.

Mae’r wefan wedi cael ei thynnu i lawr er mwyn i ni allu cynyddu ei chapasiti yn sylweddol i ni allu cyflwyno’r gwasanaeth ar-lein eto cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn y cyfamser, mae Trafnidiaeth Cymru yn diolch i bobl am eu hamynedd ac yn dweud wrthyn nhw am beidio â phoeni gan nad oes brys i adnewyddu heddiw. Dyma wythnos gyntaf y rhaglen adnewyddu a fydd ar agor am y 3 mis a hanner nesaf – bydd y cardiau bws presennol yn gweithio tan 31 Rhagfyr 2019.

Nodiadau i olygyddion


Mae’r cerdyn newydd yn dod yn lle pob cerdyn bws 60 oed a throsodd, Person Anabl (5 oed a throsodd), a Chydymaith Person Anabl.

Bydd yr hen gardiau’n cael eu derbyn tan 31 Rhagfyr 2019. Cynghorir pawb sydd â cherdyn i wneud cais am gerdyn newydd mewn da bryd cyn diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn dal i allu mwynhau manteision teithio rhatach. 

Mae’r cardiau newydd yn cynnig yr un manteision a hawliau teithio am ddim â’r cardiau presennol. Mae’r cardiau newydd wedi cael eu dylunio i gael eu defnyddio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.