16 Meh 2020
Trafnidiaeth Cymru yn prynu miloedd o litrau o hylif diheintio dwylo gan ddistyllfa newydd fydd yn helpu i gefnogi staff rheilffyrdd rheng flaen ledled Cymru a’r Gororau.
Ar ddechrau'r flwyddyn hon, bwriad gwreiddiol Castell Hensol sydd ym Mro Morgannwg oedd agor ysgol gin yn selerau’r castell sy’n dyddio’n ôl i’r 17fed ganrif. Fodd bynnag, wrth i bandemig covid-19 dyfu, fe wnaethant wneud newid brys i’w cynlluniau ar gyfer eu distyllfa gan ddechrau cynhyrchu hylif diheintio dwylo effeithiol iawn at ddibenion diwydiannol – er mwyn diwallu anghenion gweithwyr rheng flaen.
Ers dechrau’r pandemig, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch staff a chwsmeriaid trwy gynyddu timau glanhau, cyflawni gwaith glanhau ychwanegol mewn gorsafoedd, depos a threnau a chyflwyno cynhyrchion glanhau gwrthfeirysol newydd.
Bydd y bartneriaeth newydd hon gyda busnesau lleol yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gynyddu eu cyflenwad o Hylif Diheintio Dwylo ag Alcohol a helpu yn y frwydr yn erbyn covid-19.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi archebu poteli 100ml maint poced a Jerrican 2.5 litr o’r Diheintydd.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae Castell Hensol wedi ymuno yn yr ymdrech ragorol y mae busnesau yn ei gwneud ledled Cymru sydd wedi newid y ffordd y maen nhw’n gweithio er mwyn ein helpu ni mewn cyfnod o argyfwng. Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw am bopeth y maen nhw’n ei wneud.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio’n galed i ddiogelu teithwyr rheilffyrdd a bydd yr archeb hwn yn eu helpu hwy i ofalu – nid yn unig am les nid eu staff ond am les eu teithwyr hefyd.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu economi Cymru ac wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau, rydym am i fusnesau bach a chanolig gael budd o’n buddsoddiad. Mae hyn yn elfen allweddol o’n Cynllun Datblygu Cynaliadwy.
“Hoffwn ddiolch i Ddistyllfa Castell Hensol, yn gyntaf, am allu newid eu busnes i helpu yn y frwydr yn erbyn covid-19 ac yn ail, am ein cyflenwi ni gyda Hylif Diheintio Dwylo ag Alcohol fydd yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch ar draws ein rhwydwaith hyd yn oed ymhellach.
“Trwy gydol y pandemig ac wrth i ni symud ymlaen, mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ar draws yr holl sectorau’n hanfodol ac yn fuddiol iawn.”
Dywedodd Simon Davies o Ddistyllfa Castell Hensol:
“Unwaith y gwelon ni’r angen critigol oedd gan y GIG ac mewn mannau eraill, fe wnaethon ni newid ein distyllfa i gynhyrchu diheintydd dwylo gan fynd ati i sefydlu cadwyn gyflenwi allai ddiwallu’r galw brys.
“Er y digwyddodd y newid yn sydyn, doedd hi ddim bob amser yn rhwydd i oresgyn llawer i rwystr, yn enwedig gyda’r gadwyn gyflenwi, gan fod rhai cyflenwyr yn awyddus i wneud cryn elw o’r galw am y cynnyrch. Gyda help Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fodd bynnag, rydym wedi gallu sefydlu cadwyn gyflenwi gadarn ac ar ben ein digon yn diwallu anghenion gwasanaethau allweddol mewn cyfnod mor anodd.
“Bydd y cyflenwad yn parhau am cyn hired a bod ein hangen i helpu i gefnogi gwasanaethau rheng flaen.”