Skip to main content

Transport for Wales’ pop-up exhibition is a ‘brutal reminder’ of the dangers of trespassing on railway tracks

26 Meh 2023

Mae arddangosfa dros dro newydd yng Nghanolfan Dewi Sant Caerdydd yn tynnu sylw at beryglon ychwanegol tresmasu ar y rheilffyrdd ers cyflwyno Llinellau Trydan Uwchben (OLE) yng Nghymru.

Mae arddangosfa dros dro newydd yng Nghanolfan Dewi Sant Caerdydd yn tynnu sylw at beryglon ychwanegol tresmasu ar y rheilffyrdd ers cyflwyno Llinellau Trydan Uwchben (OLE) yng Nghymru.

Cafodd yr arddangosfa dros dro ei sefydlu gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel rhan o’i ymgyrch ‘Dim Ail Gyfle’. Efallai ei fod yn edrych fel nifer o siopau dillad cyfarwydd yng nghanol dinas Caerdydd, ond go iawn mae’n cynrychioli’r difrod gall OLE ei wneud drwy sioc drydanol mewn ffordd weledol, amlwg, gan ddefnyddio dillad dioddefwyr dychmygol. Bydd ymwelwyr yn gweld dillad o bob lliw a llun wedi malu, gan dynnu sylw at y ffaith bod peryglon tresmasu ar y rheilffyrdd yn berthnasol i bawb.

Cafodd ymgyrch ‘Dim Ail Gyfle’ Trafnidiaeth Cymru ei lansio ym mis Mai i gyd-fynd â’r rhan gyntaf o OLE i gael ei drydaneiddio yng Nghymru, a hynny ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at beryglon OLE i’r rhai sy’n dewis tresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a’r nod yw annog pobl i beidio â thresmasu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol – yn enwedig pobl ifanc.

Mae’r y arddangosfa dros dro, sydd ar agor rhwng Dydd Mawrth 27 a Ddydd Mercher 28 Mehefin, yn brofiad addysgol pwerus ac ymdrochol. Mae ysgolion o’r ardal lle mae OLE wedi cael ei gyflwyno’n ddiweddar yn cael eu gwahodd i ddod i weld yr arddangosfa, a byddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol fel cwisiau ac addurno crysau T gyda’r negeseuon diogelwch maen nhw wedi’u dysgu.

Y llynedd, cafodd dros 1,000 o achosion o dresmasu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol eu cofnodi ar Linellau Craidd y Cymoedd. Mae’r risg o farwolaeth neu anaf difrifol i’r rhai sy’n tresmasu ar y rheilffyrdd wedi cynyddu’n sylweddol ers i OLE fynd yn ‘fyw’ ar gyfer Metro De Cymru, gan gludo 25,000 folt o drydan. Mae dod i gysylltiad â’r llinellau uwchben yn golygu cyfradd oroesi o un o bob deg, a gall y gwres sy’n cael ei gynhyrchu o’r sioc gyrraedd tymheredd o dros 3,000 gradd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cymryd mesurau ychwanegol i wella diogelwch o amgylch traciau rheilffordd, gyda ffensys newydd a rhwystrau diogelwch estynedig yn cael eu hychwanegu at ardaloedd allweddol. Fodd bynnag, mae nifer y ceblau sy’n cael eu dwyn a’u difrodi yn dal i gynyddu, sy’n dangos bod pobl yn dal i dresmasu ar y cledrau er gwaethaf y peryglon ychwanegol.

Dywedodd Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid, TrC: “Mae cyflwyno OLE i’r rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru yn garreg filltir gyffrous i Trafnidiaeth Cymru, gan helpu i wneud trenau’n fwy esmwyth, yn dawelach ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Ond mae’n golygu risg uwch i bobl sy’n dewis tresmasu ar y rhwydwaith.

“Mae tresmasu ar y rheilffyrdd wedi bod yn beryglus erioed, ond mae cyflwyno OLE yn golygu – i’r rhai sydd efallai wedi tresmasu heb gosb yn y gorffennol – bod y risg o anaf difrifol a marwolaeth yn sylweddol uwch erbyn hyn. Rydyn ni’n gwybod bod pobl ifanc ymysg y rhai mwyaf tebygol o dresmasu ar linellau rheilffordd. Mae’r arddangosfa dros dro hon wedi cael ei dylunio i olygu bod dim dianc o’r perygl o dresmasu ar y rheilffyrdd, ac i addysgu pobl ifanc am OLE mewn ffordd ddifyr a fydd, gobeithio, yn cael effaith barhaol.

“Mae’r system OLE wedi cael ei dylunio i gadw pobl yn ddiogel a chyhyd â bod pawb yn parchu ffin y rheilffordd a ddim yn tresmasu ar y rheilffordd, byddant mor ddiogel ag erioed. Gall trydan o OLE neidio, felly does dim rhaid i chi ei gyffwrdd yn uniongyrchol i gael sioc. Dylai pobl gadw o leiaf 2.75m i ffwrdd o OLE bob amser a chymryd gofal ychwanegol wrth gario gwrthrychau fel ymbarél, balŵns heliwm a rhodenni pysgota.”

Yn ogystal â’r bygythiad o sioc drydanol, llosgiadau difrifol a marwolaeth yn y pen draw, gallai’r rhai sy’n tresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd gael dirwy o hyd at £1,000 hefyd.

Os ydych chi’n gweld unrhyw ymddygiad amheus ar y cledrau, cysylltwch â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:

  • Ffoniwch 0800 40 50 40
  • Anfonwch neges destun i 61016
  • Ffoniwch 999 mewn argyfwng
  • Neu gallwch chi ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Nodiadau i olygyddion


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cwestiynau Cyffredin ynghylch Llinellau Trydan Uwchben | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

I gael rhagor o wybodaeth am ble i ymweld â’r arddangosfa dros dro, ewch i trc.cymru/dim-ail-gyfle