15 Awst 2024
Mae’r rheilffordd fel un teulu mawr yn ôl y sôn, ac mae hynny'n sicr yn wir yn Rhymni lle mae tad a'i ferch yn gweithio gyda’i gilydd, ar ôl cwblhau eu hyfforddiant 17 mlynedd ar wahân.
Yn rhyfedd ddigon, pan gyflawnodd Tia Rees ei hyfforddiant a derbyn gradd cymwys y mis hwn, y Rheolwr Gyrwyr Haydn Cridland, yr un dyn a helpodd ei thad Dean gwblhau ei brofion’ rheolau’ yn 2007, a basiodd hi hefyd.
"Roeddwn i'n gwybod bod Tia ar y rhaglen hyfforddi ac fe wnes i gyfarfod â hi yn gynnar iawn yn ystod ei chyfnod o naw mis o hyfforddiant," meddai Hadyn, a ymunodd â'r rheilffordd yn 1985.
"Drwy ryw chwiw ryfedd, bennodd hi lan yn Rhymni, serch y ffaith nad oes llawer o hyfforddeion yn dechrau yma gan ein bod ni’n depo bach.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda nhw i feithrin perthynas dros gyfnod yr hyfforddiant ac mae'n ymwneud yn fawr â'u helpu i gyflawni'r gorau y gallant yn hytrach na phwysleisio diffygion.
"Roedd yn rhaid iddi weithio’n galed i haeddu’r clod ac mae hi’n hynod alluog felly rwy'n credu y bydd hi'n mynd yn bell iawn."
Mae'r cyn-heddwas Tia, 25, bellach wedi cwblhau ei thaith unigol gyntaf fel gyrrwr ac mae'n gymwys i yrru trenau Dosbarth 150 a 231.
"Mae wedi bod yn gyffrous iawn, er bod yr hyfforddiant yn llawer anoddach nag yr oeddwn i'n disgwyl," meddai Tia.
"Ond mae gen i reolwr da iawn!
"Ro'n i'n ffonio fy nhad yn gofyn cwestiynau iddo o hyd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn yrrwr yma."
Ar ôl cymhwyso yn 2007, treuliodd y cyn-beiriannydd awyrennau, Dean, 10 mlynedd yn gyrru cyn dod yn hyfforddwr ac yn fwy diweddar, yn Rheolwr Gyrwyr.
Dywedodd: "Mae'r broses wedi newid cryn dipyn ers i mi gwblhau fy hyfforddiant. Yn y gorffennol, roeddech chi’n treulio 12 wythnos yn yr ystafell ddosbarth yna byddai rheolwr gyrwyr yn cael ei glustnodi ar eich cyfer i fynd dros y rheolau a chefais i fy rhoi gyda Haydn. Treuliais 8 awr mewn ystafell gydag ef yn ateb 512 o gwestiynau!
"Pan oedd Tia yn heddwas roedd ei mam yn poeni'n arw amdani felly dywedais i wrthi y dylai hi drio gyrru trenau.
"Ers hynny, yr unig beth ry’n ni wedi siarad amdano yn ein tŷ ni am naw mis yw trenau!”
Oherwydd y cysylltiad teuluol, Haydn yw rheolwr Tia tra bod Dean yn rheoli llysfab Haydn, Craig, sydd hefyd yn yrrwr. Mae mab Haydn, Charlie, yn yrrwr ar y brif linell, tra bod ei dad a'i dad-cu hefyd yn gweithio ar y rheilffordd, yn dyddio’n ôl i 1915.
"Mae'n braf gweld teulu ar y rheilffordd ac mae’r diwydiant wastad wedi bod fel hynny," ychwanegodd Haydn, sydd dros y blynyddoedd wedi pasio rhwng 30 a 40 o yrwyr.
"Mae cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac mae’n yrfa sy’n cynnig safon byw dda iawn i chi, ac yn ddigon haeddiannol felly."