Skip to main content

Landmarks in Welsh transport history

23 Mai 2020

Mae Cymru wedi arwain y byd ym maes trafnidiaeth ers dros 200 mlynedd. I ddiolch i chi am aros gartref, rydyn ni wedi bwrw cipolwg yn ôl drwy’r archifau i ddarganfod mwy am rai o’r cerrig milltir mwyaf yn hanes datblygiad ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.

1793: Pont-y-Cafnau
Cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont reilffordd haearn hynaf y gwyddom amdani yn y byd ym 1793 gan Watkin George, prif beiriannydd Gwaith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Yn ei anterth, Cyfarthfa oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd, ac ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, adeiladodd ei dramffordd ei hun i gario calchfaen o Chwarel Gurnos i’r ffwrneisi chwyth. Dros 200 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dal i sefyll, ymhell ar ôl i’r dramffordd ei hun ddiflannu, er ei bod heddiw’n cael ei defnyddio gan gerddwyr yn hytrach na thramiau.

1804: Locomotif stêm Penydarren
Bellter byr oddi yno, roedd Gwaith Haearn Penydarren, a adeiladodd ei dramffordd ei hun ym 1802. Roedd yn rhedeg yn gyfochrog â’r rheilffordd bresennol i lawr Cwm Taf gan gysylltu â Chamlas Morgannwg yn Abercynon. Yn fuan ar ôl iddi agor, gosododd y peiriannydd o Gernyw, Richard Trevithick, injan stêm statig ar olwynion, gan greu beth fyddai’r locomotif stêm cyntaf yn y byd i dynnu trên yn llwyddiannus, a hynny ym mis Chwefror 1804.

1805: Dyfrbont Pontcysylle
Roedd Thomas Telford yn un o’r peirianwyr cynnar mwyaf disglair, a chyflawnodd rai o’i gampau mwyaf yng Nghymru a’r Gororau – mae tref Telford wedi’i henwi ar ei ôl. Yn 1805, gorffennwyd ei gampwaith, Dyfrbont Pontcysyllte. Cafodd ei chynllunio i gario Camlas Ellesmere ar draws dyffryn llydan Afon Dyfrdwy, a chymerodd ddeng mlynedd i’w hadeiladu a hon yw’r draphont ddŵr uchaf ar gyfer camlas yn y byd hyd heddiw. Yn 2009, a hithau’n un o strwythurau hanesyddol mwyaf arwyddocaol y byd, fe’i henwyd yn drydedd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru.

1807: Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls
Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls, oedd yn dilyn ymyl Bae Abertawe am bum milltir a hanner, oedd y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i gludo teithwyr am dâl pan agorodd ym 1807. Tramffordd a dynnwyd gan geffyl oedd hi i ddechrau, ond fe’i newidiwyd i gael ei phweru gan stêm ym 1877 ac yna gan drydan ym 1929. Roedd y llinell yn cysylltu rhai o safleoedd enwocaf Abertawe, gan gynnwys canol y ddinas, maes rygbi a chriced San Helen, Prifysgol Abertawe, Castell Ystumllwynarth a Phier y Mwmbwls. Fodd bynnag, gyda dyfodiad bysiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, aeth tramiau’n llai poblogaidd a chaewyd y rheilffordd ym 1960.

1832: Rheilffordd Ffestiniog
Ar ôl bron i 190 mlynedd ar waith, Rheilffordd Ffestiniog yw’r cwmni rheilffordd gweithredol hynaf yn y byd. Adeiladwyd y llinell rhwng Harbwr Porthmadog a chwareli Blaenau Ffestiniog fel lein fach ddwy droedfedd fel y gallai droi a throelli trwy odre mynyddoedd ysblennydd Eryri, a chynlluniwyd locomotifau cymalog arbennig gan y peiriannydd Robert Fairlie i dynnu’r trenau. Ar ôl cau ym 1946, cafodd y cwmni ei achub gan selogion, a dreuliodd y 36 mlynedd nesaf yn ailadeiladu’r rheilffordd yn ofalus. Heddiw, mae’n un o’n hatyniadau enwocaf i dwristiaid ac mae’r cwmni’n gweithredu’r rhwydwaith rheilffyrdd treftadaeth mwyaf yn y DU, gan gynnwys Rheilffordd Ucheldir Cymru rhwng Porthmadog a Chaernarfon, ac mae TrC yn falch o gydweithio’n agos â nhw.

1848: Yr Irish Mail
Y Flying Scotsman, y Cornish Riviera Express, y Golden Arrow, y Gerallt Gymro: mae Prydain wedi cynhyrchu rhai o’r trenau gydag enwau enwocaf yn y byd – gwasanaethau ar yr amserlen gydag enw unigryw sydd yn cynyddu eu bri. Y trên cyntaf yn y byd ag enw oedd yr Irish Mail, a oedd yn cludo teithwyr a phost rhwng gorsaf Euston yn Llundain a Bangor o 1 Awst 1848 ymlaen. Pan gwblhawyd Pont Britannia Robert Stephenson ym 1850, gallai’r trên deithio’r holl ffordd i Gaergybi. Er nad yw’r gwasanaethau yn dwyn yr enw enwog bellach, mae trenau uniongyrchol rhwng Llundain a Chaergybi yn rhedeg o hyd, ac yn cael eu cynnal gan ein partneriaid diwydiant Avanti West Coast.

1857: Traphont Crymlyn
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth Glynebwy’n un o ganolfannau diwydiant dur Cymru; ym 1857, cynhyrchwyd y gledren ddur gyntaf yn y byd yno. Ymhellach i lawr Glyn Ebwy, roedd rheilffordd newydd yn cael ei hadeiladu a fyddai’n cysylltu’r cwm hwn â sawl un arall. Bu Estyniad Rheilffordd Cwm Taf rhwng Pont-y-pŵl a Chastell-nedd ar waith am dros gan mlynedd nes iddo gau ym 1964. Roedd gofyn adeiladu sawl traphont sylweddol, y fwyaf ohonynt ar draws Glyn Ebwy yng Nghrymlyn. Roedd yn 200 troedfedd o uchder, a’r strwythur haearn enfawr hwn oedd y draphont uchaf yn y DU nes iddi gael ei dymchwel oherwydd cyrydiad rhwng 1966 a 1967. Ei rôl olaf oedd ymddangos mewn golygfeydd yn y ffilm Arabesque ym 1966, gyda Gregory Peck a Sophia Loren yn serennu.

1886: Twnnel Hafren
Hyd at 1886, roedd yn rhaid i drenau rhwng Llundain a De Cymru redeg trwy Gaerloyw, gan groesi i Gymru dros bont Isambard Kingdom Brunel, a adeiladwyd ar draws Afon Gwy ym 1852. Ond bu galw ers tro byd am lwybr mwy uniongyrchol, ac ym 1873, cychwynnwyd ar dwnnel o dan aber Afon Hafren. Roedd y gwaith adeiladu yn gryn her oherwydd llifogydd, a bu’n rhaid adeiladu pympiau parhaol sy’n dal ar waith hyd heddiw. Rhedodd y trenau cyntaf trwy’r twnnel ym mis Rhagfyr 1886, gan ddod â’r gwaith ar un o gampau peirianyddol mwyaf Prydain i ben. Am dros gan mlynedd, hwn oedd y twnnel tanddwr hiraf yn y byd, ac mae gorsaf TrC wedi’i henwi ar ei ôl hyd yn oed!

Llwytho i Lawr