Skip to main content

Events to highlight the importance of defibrillators

20 Chw 2023

Cynhelir dau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yr hanner tymor hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd diffibrilwyr ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi gosod mwy na 200 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd dros y 12 mis diwethaf, gan ddarparu offer achub bywyd hanfodol mewn cymunedau lleol.

Y mis hwn yw ymgyrch ‘Defibruary’ flynyddol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mae TrC yn gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Achub Bywyd Cymru ar ddigwyddiadau dros dro yng Nghaerdydd a Wrecsam i ddarparu hyfforddiant dadebru diffibriliwr a cardio-pwlmonaidd (CPR) am ddim.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Achub Bywyd Cymru i ddarparu hyfforddiant deffib a CPR am ddim ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl am ddiffibrilwyr.  Byddwn hefyd yno i gefnogi'r rhai sydd wedi profi neu weld ataliad ar y galon.

“Dim ond yn ddiweddar defnyddiodd y criw trên ar un o’n gwasanaethau diffibriliwr yn yr orsaf i roi cymorth i deithiwr a oedd wedi dioddef ataliad ar y galon, felly rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran helpu i achub bywydau pobl.

“Yn anffodus, gan y cawsom achos lle nad oedd modd i ddioddefwr gael at ddiffibrilwr yn ein gorsaf oherwydd ei fod wedi cael ei fandaleiddio, byddwn hefyd yn defnyddio’r digwyddiadau hyn i annog pobl i drin diffibrilwyr â pharch ac os ydyn nhw’n gweld diffibrilwr wedi’i ddifrodi ar ein rhwydwaith, i roi gwybod i ni."

Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: “Mae’n bleser gan Achub Bywyd Cymru gefnogi Trafnidiaeth Cymru yn y digwyddiad Diffibriliwr hwn a chynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth CPR a diffibriliwr i deithwyr yng Ngorsafoedd Rheilffordd Caerdydd a Wrecsam.  

“Mae siawns person o oroesi ataliad ar y galon yn dibynnu ar bobl wrth law yn perfformio CPR ar unwaith ac yn defnyddio diffibriliwr.  Gall ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran ac ar unrhyw adeg ac felly gall cael yr hyder i weithredu'n gyflym os ydych chi'n wynebu argyfwng meddygol o'r fath yn y pen draw helpu i achub bywyd.

“Os na allwch ymuno â ni yn y digwyddiadau Defibuary hyn, chwiliwch ar wefan Achub Bywyd Cymru am gyngor ac anogaeth ar sut y gallech chi helpu i achub bywyd gyda CPR a diffibriliwr.”

Cynhelir y digwyddiadau yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd ddydd Mercher 22 Chwefror rhwng 10am a 2pm ac yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam ddydd Iau 24 Chwefror rhwng 10am a 2pm.

Yn Wrecsam bydd staff Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyfarfod â’r grŵp sgowtiaid lleol i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth CPR a defnyddio diffibriliwr yn neuadd y sgowtiaid gyferbyn â’r orsaf.

Llwytho i Lawr