Skip to main content

Free bike security marking events return to Transport for Wales network

24 Maw 2026

Mae beicwyr ledled Cymru a'r Gororau yn cael eu gwahodd i ddiogelu eu beiciau am ddim wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) ddychwelyd ei rhaglen boblogaidd o farcio beiciau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), mae'r fenter yn cynnig cyfle i feicwyr gael farcio eu beiciau er mwyn eu diogelu a'u cofrestru ar gronfa ddata genedlaethol, yn rhad ac am ddim.

Mae cofrestru beic yn helpu'r heddlu a manwerthwyr i adnabod a chadarnhau'r perchennog cyfreithlon os yw beic yn cael ei ddwyn, gan gynyddu'r siawns o’i adfeddiannu.

Ers i'r fenter ddechrau, mae mwy na 560 o feiciau wedi'u cofrestru, ac mae dros 400 o bobl wedi cymryd rhan yn Arolwg Teithio Llesol TrC - gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr sy'n parhau i lunio gwelliannau ledled y rhwydwaith.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yng ngorsafoedd rheilffordd TrC a lleoliadau cymunedol drwy gydol y gwanwyn/haf, gan gynnig cyfle i feicwyr gael eu beiciau wedi'u marcio'n ddiogel a'u hychwanegu at gronfa ddata genedlaethol.

Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: "Rydyn ni eisiau gwneud hi'n haws i bobl ddewis moddau cynaliadwy, carbon isel o deithio. Mae'r digwyddiadau marcio beiciau hyn nid yn unig yn helpu i gadw beiciau pobl yn ddiogel, ond hefyd yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo llwybrau a chyfleusterau lleol a chlywed gan gymunedau yn uniongyrchol.

"Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr Arolwg Teithio Llesol fel y gallwn ddeall yn well y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddewis cerdded, olwynio neu seiclo."

Ychwanegodd yr Arolygydd Lleol Alun Derrick o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: "Mae'n wych gweithio gyda TrC i gynnig cyngor ymarferol ar atal troseddau i deithwyr a'r cyhoedd ochr-yn-ochr â'r lefel ychwanegol hon o farcio ar feiciau. Byddem yn annog unrhyw un sydd â beic i ddod draw rhag ofn.

"Cofiwch, os gwelwch unrhyw beth amheus wrth deithio ar y trenau neu mewn gorsafoedd, rydym yn eich annog i gysylltu â ni trwy anfon neges destun at 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40."

Mae'r rhaglen yn rhan o ymrwymiad ehangach TrC i gefnogi Teithio Llesol ac annog ffyrdd mwy cynaliadwy o symud trwy Gymru.

Mae TrC yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig i Gymru, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau a seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel.

I ddarganfod mwy am Ddigwyddiadau Diogelu Beiciau 2026 TrC, ewch i: Bike Events 2026 | Have your say by Transport for Wales

I gynllunio taith, ac i gael rhagor o wybodaeth am deithio ar feic gyda TrC, ewch i: Beiciau ar y trên | Trafnidiaeth Cymru

Nodiadau i olygyddion


Dyddiadau ac Amseroedd Digwyddiadau Lleoliadau
Dydd Iau, 23 Ebrill 10yb-2yp Gorsaf Reilffordd Caer
Dydd Gwener, 24 Ebrill 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Amwythig
Dydd Gwener, 1 Mai 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Bangor
Dydd Gwener, 8 Mai 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Abertawe
Dydd Gwener, 15 Mai 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Abertawe
Dydd Gwener, 22 Mai 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Caerdydd
Dydd Gwener, 29 Mai 10yb - 2yp Gorsaf Reilffordd Caerdydd
Dydd Gwener, 5 Mehefin 10yb - 2yp Y Drenewydd, Hafan yr Afon (SY16 2NH)