Skip to main content

New defibrillator saves life at Cardiff Central station

09 Mai 2023

Ddechrau mis Ebrill 2023, defnyddiwyd diffibriliwr newydd i achub bywyd dyn yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog. 

Cafodd dyn anymwybodol ei weld yn yr orsaf a defnyddiodd dau Swyddog Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y diffibriliwr ar ôl rhoi CPR.  Cymerodd parafeddygon yr awenau ar ôl iddynt gyrraedd a chafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty i wella.

Dywedodd Leyton Powell, ein Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg:

“Mae TrC wedi gosod dros 200 o ddiffibrilwyr ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd ac mae hon yn enghraifft glir o ba mor bwysig ydyn nhw a sut gallan nhw achub bywydau.”

“Yn anffodus, mewn llawer o’n gorsafoedd, mae ein diffibrilwyr wedi cael eu fandaleiddio ac rwy’n gobeithio bod y stori hon yn tynnu sylw at y rôl hollbwysig maen nhw’n gallu ei chwarae ac y bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn difrodi darn o gyfarpar sy’n achub bywydau. Os ydych chi’n gweld rhywun yn camddefnyddio’r offer hollbwysig hwn, anfonwch neges destun at BTP ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40.”

“Eleni, rydyn ni wedi gweithio gyda’n partneriaid yn Achub Bywyd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yng ngorsafoedd Caerdydd a Wrecsam a byddwn yn parhau i dynnu sylw at eu pwysigrwydd wrth symud ymlaen.”

Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Andrew Morgan:

“Mae diffibrilwyr yn adnodd cymunedol anhygoel ac yn achub bywydau dro ar ôl tro.  Dwi’n canmol ac yn diolch i’n dau swyddog a fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn. Eu meddwl chwim a’u hyfforddiant a wnaeth y gwahaniaeth yn y pen draw. Dwi hefyd yn adleisio’r pryderon a godwyd ynghylch fandaliaeth ddifeddwl mewn perthynas â’r offer achub bywyd hyn.

“Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael trawiad ar y galon, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am y gwasanaeth Ambiwlans. Yna, dechreuwch roi CPR a gofynnwch i rywun ddod o hyd i ddiffibriliwr. Bydd y gweithredwr 999 yn rhoi cyngor i chi ar sut i roi CPR os nad ydych chi’n gwybod sut i wneud hynny, a ble i ddod o hyd i’r diffibriliwr agosaf. Bydd y gweithredwr hefyd yn rhoi cyngor i chi ar sut i’w ddefnyddio. Bydd y camau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ac, fel yn y digwyddiad hwn, efallai bydd yn achub bywyd.”  

Nodiadau i olygyddion


Nodyn: Dyfeisiau cludadwy yw diffibrilwyr y gellir eu defnyddio i roi sioc drydanol i’r galon. Gall eu defnyddio’n gyflym fod y gwahaniaeth rhwng achub bywyd rhywun neu beidio. Os bydd diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio o fewn 3-5 munud o ataliad ar y galon, gall y siawns o oroesi gynyddu hyd at 70%.