10 Chw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i chi benderfynu pa un o’r tair prif elusen fydd yn ymddangos ar ochr un o drenau’r cwmni yn ddiweddarach eleni.
Mae tair set o gerbydau Mark 4 modern yn cael eu cyflwyno ar wasanaethau Caerdydd-Caergybi, gan gynnwys y Gwasanaethau Premier enwog “Y Gerallt Gymro” yn ystod 2021, gan ddarparu profiad gwirioneddol hwylus rhwng dinasoedd gan gynnwys gwell hygyrchedd a gwell profiad i gwsmeriaid.
Fel rhan o frand unigryw y trenau, bydd pob un o’r cerbydau olaf – a elwir yn DVT (Driving Van Trailers) – yn cynnwys cynllun lliwiau i hyrwyddo elusen.
Mae cydweithwyr Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi dewis dwy o’r tair elusen a fydd yn cael eu dathlu, gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru a Hosbis Plant Tŷ Gobaith yn dod ar y brig mewn ymgyrchoedd pleidleisio. Ar gyfer y drydedd elusen, mae TrC yn cynnal pleidlais gyhoeddus ar Twitter i ddewis rhwng tair elusen sydd wedi’i henwebu: Mind Cymru, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Bydd modd pleidleisio ar Twitter rhwng 10 a 12 Chwefror.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyflwyno cerbydau newydd i’n fflyd bob amser yn garreg filltir bwysig, ond rwyf wrth fy modd ein bod yn gwneud hyn ychydig yn fwy arbennig drwy ei ddefnyddio fel cyfle i ddathlu a hyrwyddo’r gwaith gwych y mae ein prif elusennau’n ei wneud.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod heriol hwn pan fydd cymaint o bobl yn dibynnu ar gefnogaeth yr elusennau hyn. Mae pob un o'r tair elusen sydd wedi cael eu henwebu yn haeddu ennill ac rwy’n sicr y bydd hi’n agos iawn rhyngddyn nhw. Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb.”
Dyma air neu ddau gan yr elusennau sydd wedi’u henwebu, yn gofyn am eich pleidlais:
Mind Cymru
Bob blwyddyn, bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl. Ond mae miloedd o bobl yn dal i gael pethau’n anodd. Rydym yn credu na ddylai neb orfod wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Byddwn yn gwrando, yn rhoi cefnogaeth a chyngor i chi, ac yn brwydro drosoch chi drwy ymgyrchu i wella polisi’r llywodraeth.
Bydd ymgyrch brand yn ein helpu i gael gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl i bawb sydd ei angen yng Nghymru. Peidiwch â gadael i neb wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Pleidleisiwch dros Mind Cymru.
Gwefan: https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub
Mae’r RNLI yn achub bywydau ar y môr. O’r Fflint i Benarth, rydym yn dylanwadu ar bobl, yn addysgu, yn goruchwylio ac yn achub unrhyw un sydd ein hangen ar yr arfordir.
Bydd degau o filoedd o bobl fel chi yn ymweld â’r arfordir ar drenau TrC yn 2021, felly helpwch i’n cadw ar flaen meddyliau pobl drwy bleidleisio drosom ni.
Dydy’r môr ddim yn gwahaniaethu a dydyn ni ddim chwaith. Byddwn yno bob amser i helpu unrhyw un sy’n canfod eu hunain mewn anhawster. Mae ein badau achub ac achubwyr bywyd o’r radd flaenaf wedi bod yn achub pobl ers bron i 200 mlynedd ac rydym yn bwriadu bod yn rhan o arfordiroedd Cymru am byth.
Gwefan: https://www.rnli.org/
Ambiwlans Awyr Cymru
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yw’r unig wasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Ers i ni lansio yn 2001, rydym wedi datblygu i fod y gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU. Mae ein hymgynghorwyr a’n hymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac rydym yn cario rhai o’r offer mwyaf arloesol yn y byd. Rydym bellach yn agosau at 38,000 o genadaethau, a chyflwynwyd hofrennydd a all weithredu dros nos ym mis Rhagfyr gan ein gwneud yn weithrediad 24-awr – sy’n golygu bod rhoddion yn bwysicach nag erioed.
Rhaid i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn. Bydd eich pleidlais yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth achub bywyd.
Gwefan: https://www.ambiwlansawyrcymru.com/
Nodiadau i olygyddion
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau Mark 4 ar wasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi pan fydd yr amserlen yn newid ym mis Mai. Bydd y rhain yn disodli’r cerbydau Mark 3 hŷn sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ar nifer cyfyngedig o wasanaethau Caerdydd-Caergybi a Manceinion-Caergybi/Llandudno.
Adeiladwyd cerbydau Mark 4 ar gyfer British Rail rhwng 1989 a 1992 i’w defnyddio ar Brif Reilffordd Dwyrain Lloegr rhwng Llundain a’r Alban. Maent wedi cael eu hadnewyddu rhwng 2003 a 2005, ac yn 2016. Yn fwyaf diweddar, roeddent yn cael eu defnyddio ar Reilffordd Gogledd Ddwyrain Llundain, cyn cael eu disodli gan y trenau Azuma newydd sbon.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi prynu tair set pedwar cerbyd i roi profiad gwell i gwsmeriaid, gyda setiau Mark 4 yn cael eu defnyddio ar dri gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi bob dydd, o’i gymharu ag un y dydd bob ffordd ar hyn o bryd. Bydd hyn yn golygu darparu gwasanaeth arlwyo ehangach, a mwy o wasanaethau gyda seddi Dosbarth Cyntaf. Bydd y cerbydau’n dal i gael eu tynnu gan y trenau locomotif disel Class 67 pwerus, sy’n eiddo i DB Cargo UK ac yn cael eu prydlesu i TrC i’w defnyddio ar eu gwasanaethau.