Skip to main content

Meet the grime fighting duo working through the night to get our trains ready for rush hour

15 Chw 2019

Mae dau aelod o staff Trafnidiaeth Cymru ar fin serennu mewn cyfres BBC Wales sy’n archwilio byd cudd y bobl sy’n gweithio sifftiau nos.

Mae Lynne Bartlett ac Andrew French, ill dau o Gaerdydd, yn aelodau o dîm Ymddangosiad Trenau Trafnidiaeth Cymru ac maen nhw’n treulio oriau bob nos yn paratoi’r cerbydau trên i’r 12,000 o deithwyr sy’n defnyddio’r rhwydwaith bob dydd.

Mae’r ddau lanhäwr brwd, sydd wedi treulio dros 30 mlynedd rhyngddyn nhw’n gweithio’r sifft nos, nawr yn serennu mewn cyfres deledu bedair rhan newydd fydd yn cael ei dangos ar BBC One Wales.

Mae’r gyfres yn dwyn y teitl addas ‘Nightshifters’, ac mae’n archwilio byd y gweithwyr nos sy’n aml yn cael eu hanghofio, a chaiff pobl fel Lynne ac Andrew eu disgrifio fel ‘y fyddin anweledig sy’n gweithio yn y tywyllwch er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn mynd fel cloc’.

Mae’r bennod yn dilyn Lynne ac Andrew ar sifft yng nghanol tywydd poeth yr haf wrth iddyn nhw weithio gyda’u timoedd mewn tymheredd o 22 gradd i gael dros 100 cerbyd trên yn barod ar gyfer yr oriau prysur.

Mae Lynne, ymunodd â’r diwydiant rheilffyrdd dros 16 mlynedd yn ôl i lanhau cabanau, bellach yn un o Arweinyddion Tîm Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd: “Mae rhai o’r pethau dwi wedi eu darganfod yn ystod y blynyddoedd o lanhau trenau’n anghredadwy.

“Dwi wedi ffeindio popeth o feiciau a baglau i goetsys plant a hyd yn oed bwrdd syrffio – mae rhywun yn gweld pob math o bethau wrth weithio sifftiau nos!

“I mi, does dim teimlad gwell na gorffen gweithio ac edrych ar yr holl drenau llonydd mewn rhes yn y depo – wedi eu glanhau’n drylwyr ac yn barod i gyfarch y teithwyr prysur.

“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynd ar amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi sydd wedi fy helpu i ddatblygu i fod yn Arweinydd Tîm gyda Thîm Ymddangosiad Trafnidiaeth Cymru – dwi’n mwynhau’r swydd ac rydyn ni hefyd yn cael teithio ar drenau am ddim sy’n rhoi hyblygrwydd i mi wrth gynllunio teithiau; dwi wrth fy modd!”

Dechreuodd Andrew weithio i rwydwaith reilffyrdd Cymru 13 mlynedd yn ôl ar ôl chwilio am her newydd yn ei yrfa.

Dywedodd: “Roeddwn i’n gweithio yn y diwydiant TG ac awgrymodd dau ffrind – oedd eisoes yn lanhawyr nos – y dylwn roi cynnig arni, felly fe wnes i, a dyna ni!

“Yn y dechrau, roedd fy mhatrwm cysgu dros y lle bob man, ac roedd yn rhaid dod i arfer â’r oriau hir ond dwi’n ffodus fy mod i’n gweithio gyda thîm anhygoel - rydyn ni’n cefnogi ein gilydd a bob amser yn helpu os oes rhywun mewn trafferth.

“Mae ein direidi a’n tynnu coes yn ein helpu i oresgyn pob math o heriau!”

Caiff ‘Nightshifters’ ei darlledu ar BBC One Wales am 7.30pm nos Wener, 15 Chwefror. Bydd hefyd ar gael ar yr iPlayer.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ewch i www.tfwrail.wales.

Nodiadau i olygyddion


Cydnabyddiaeth llun: Huw John/BBC Studios