Skip to main content

Discover the Railway Heritage of Fishguard Harbour

16 Hyd 2025

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Cysylltu De Orllewin Cymru yn falch iawn o gydweithio â Stena Line i gynnal digwyddiad a fydd yn dathlu hanes y porthladd a’r rheilffordd yn Harbwr Abergwaun.

Digwyddiad yw hwn sy’n cael ei gynnal ar y cyd â’r ganolfan dreftadaeth gymunedol yn Abergwaun, ‘Ein Hanes – Our History’, a hynny brynhawn dydd Sadwrn, 18 Hydref, yn nherfynfa fferis Stena Line, gan ddod â straeon, hanes a lleisiau lleol ynghyd er mwyn dangos pwysigrwydd y rheilffordd a’r porthladd i’r ardal.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddathliadau Rheilffordd 200, sy’n nodi dau gan mlynedd ers ymddangosiad y rheilffordd fodern. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr, diolch i gyllid gan Trafnidiaeth Cymru a Great Western Railway.

Fel rhan o’r diwrnod, bydd rhaglen ddifyr o sgyrsiau, gyda chyfraniadau gan awduron lleol, haneswyr a sylwebwyr o bob oed. Bydd slotiau stori byrion i drigolion rannu eu hatgofion a’u profiadau.

Yn ogystal â’r sgyrsiau, bydd:

  • Arddangosfa newydd sbon sy’n edrych ar hanes y rheilffordd a’r porthladd
  • Rheilffyrdd model yn dangos modelau gorllewin Cymru
  • Perfformiadau theatr ar y safle, gydag actorion yng ngwisgoedd y 1900au yn dod â hanes yn fyw
  • Cerddoriaeth gan gerddorion lleol a gwobrau i’r ymwelwyr sydd yn y gwisgoedd gorau

Bydd hefyd stondinau’n gwerthu cynhyrchion lleol fel llyfrau hanes a losin a nwyddau fferyllol hen ffasiwn o siopau cyfagos. Bydd lluniaeth ar gael o gaffi a redir gan wirfoddolwyr gyda phawb yn talu drwy gyfrannu rhodd. Bydd yr elw’n mynd i elusennau.

Dywedodd Philip Merchant, Swyddog Prosiect y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol: “Dyma gyfle gwych i ddathlu cyfraniadau hollbwysig y bobl a gafodd y weledigaeth i ddod â’r rheilffordd i’r gorllewin, a’r gwaith dilynol i adeiladu’r porthladd arwyddocaol hwn, a greodd lwybr i Iwerddon ac America!”

Dywedodd llefarydd ar ran Stena Line: “Mae Stena Line yn falch o roi ein cyfleusterau i gefnogi’r digwyddiad hwn sy’n dathlu treftadaeth a hanes y rheilffordd yn Harbwr Abergwaun. Rydyn ni’n credu mewn hybu ein treftadaeth, ac mewn cysylltu cymunedau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr wrth iddyn nhw ddod i wybod mwy am hanes cyfoethog rheilffyrdd yn yr harbwr.”

Ychwanegodd Dr Louise Moon, Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 Trafnidiaeth Cymru: “Eleni mae digwyddiadau a gweithgareddau wedi cael eu cynnal ledled Cymru a’r

gororau, ac rydyn ni wrth ein boddau’n cynnal digwyddiad sy’n canolbwyntio ar hanes pwysig Harbwr Abergwaun. Mae’n wych gweld treftadaeth y rheilffyrdd yn dod â chymunedau at ei gilydd, a gweld mwy o straeon am orffennol ein rheilffyrdd yn cael y sylw y maen nhw’n ei haeddu.”

Cynghorir ymwelwyr i deithio i’r derfynfa ar y trên o Abergwaun ac Wdig a’r tu hwnt, sy’n golygu y bydd y daith ei hun yn rhan o’r profiad. Gan fod y llefydd parcio yn y derfynfa fferis yn weddol brin, mae pobl yn cael eu hannog i gyrraedd ar y trên, ar droed, ar feic, neu drwy rannu ceir.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi stori i’w hadrodd neu ffotograffau neu wrthrychau hanesyddol, anfonwch e-bost at philip.merchant@southwestwales.co

Nodiadau i olygyddion


Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 12:30 a 4:30. Rydyn ni’n annog ymwelwyr i deithio ar y trên drwy ddal y gwasanaeth 12:43 o orsaf reilffordd Abergwaun ac Wdig a gwasanaeth 16:00 yn ôl o Harbwr Abergwaun.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o ddathliadau Rheilffordd 200 ledled y wlad, sy'n nodi 200 mlynedd o'r rheilffordd fodern. Mae’r ymgyrch blwyddyn o hyd sy’n cael ei chynnal gan bartneriaid i ddathlu hanes y rheilffyrdd, ond gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd ar yr un pryd i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiant rheilffordd.

1. Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad llawr gwlad sy’n cynnwys partneriaethau rheilffyrdd cymunedol ledled Prydain. Mae’r rhain yn gweithio ochr yn ochr gyda rheilffyrdd cyflawn neu mewn rhanbarthau penodol, a chyda grwpiau o ‘ffrindiau’ neu grwpiau ‘mabwysiadu’ gwirfoddol mewn gorsafoedd sy’n cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd.

Mae dros 75 o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol i’w cael, a dros 1,300 o grwpiau ffrindiau gwirfoddol mewn gorsafoedd ledled Prydain.

2. Mae Cysylltu De Orllewin Cymru yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol achrededig, sydd wedi cael y statws hwn gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru. Mae’r Bartneriaeth

Rheilffordd Gymunedol yn gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd ar hyd y llwybrau o Bort Talbot i Abertawe, Caerfyrddin a Sir Benfro.

Fel Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol, ein nod yw rhoi llais i’r gymuned; hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch; dod â chymunedau at ei gilydd; hybu amrywiaeth a chynhwysiant; a chefnogi datblygu cymdeithasol ac economaidd.

3. 4theRegion yw’r sefydliad sy’n lletya’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol. Cwmni nid-er-elw yw 4theRegion, a sefydlwyd yn Abertawe ym mis Ionawr 2018. Mae hi’n gynghrair o aelodau sy’n gweithio dros newid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.