Skip to main content

New £100m train depot to open in Taffs Well

11 Meh 2018

Bydd depo trenau newydd modern yn agor yn Ffynnon Taf fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer Metro'r De, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi bron £100m yn nepo newydd Trafnidiaeth Cymru i gadw neu wasanaethu'r 36 o gerbydau newydd y bydd y Metro yn eu rhedeg ar leiniau Cwm Taf.

Yn ogystal, bydd 400 o weithwyr trenau, 35 o staff cynnal a chadw cerbydau'r Metro a 52 o weithwyr canolfan reoli integredig Metro'r De yn gweithio yno.

Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £194m mewn rhaglen o welliannau i orsafoedd ledled Cymru, bydd gorsaf Ffynnon Taf hefyd yn cael ei hadnewyddu, a chaiff cyfleuster parcio a theithio ei ddarparu er lles cymudwyr ar Fetro'r De.

Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn ategu depos eraill yn y De gan gynnwys yr un yng Nghanton, a fydd yn elwa ar fuddsoddiad o tua £5m i foderneiddio'r cyfleusterau i gynnal a chadw'r cerbydau tri modd newydd fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r gwasanaeth rheilffyrdd newydd.

Bydd arian yn cael ei fuddsoddi hefyd yn y cyfleusterau cadw trenau yn Nhreherbert a Rhymni ac i wella'n orsaf yn Rhymni iddi allu delio â mwy o gerbydau tri modd a rhai hirach.

Meddai Ken Skates:

Buddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o weithio gyda'r rheilffyrdd ac yn unol â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni am wneud yn siwr bod ein buddsoddiad o £5bn yn y gwasanaethau rheilffyrdd yn cynyddu'r cyfleoedd i fusnesau o Gymru, yn rhoi hwb i economi Cymru ac yn datblygu sgiliau lleol gan greu a chynnal cymaint o swyddi lleol â phosib."

Adeiladu depo Ffynnon Taf fydd un o'r cyfleoedd cyntaf i gyflenwyr o Gymru elwa'n uniongyrchol ar ein buddsoddiad o £738m ym Metro'r De a fydd yn creu seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy a chysylltiedig. Testun cyffro mawr imi yw'r gwahaniaeth byw a gweladwy y gall y buddsoddiad hwn gan y sector cyhoeddus ei wneud i fusnesau a chymunedau Cymru."

Disgwylir i'r gwaith clirio ac adeiladu ar gyfer y depo newydd ddechrau yn 2019 a'i gwblhau erbyn canol 2022.

Bydd Trafnidiaeth Cymru'n caffael cwmnïau adeiladu ar gyfer y depo trwy GwerthwchiGymru a'r fframwaith STRIDE i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael y gorau o'r manteision economaidd.