12 Maw 2025
Mae delweddau newydd sbon yn dangos sut olwg allai fod ar orsaf Caerdydd Canolog yn sgil rhaglen fuddsoddi o hyd at £140 miliwn i wella'r orsaf.
Cyflwynwyd yr achos busnes llawn ar gyfer y gwelliannau arfaethedig i orsaf Caerdydd Canolog ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf a bydd dogfennau cynllunio’n cael eu cyflwyno’n fuan. Mae cyflawni’r cynllun yn amodol ar gymeradwyo’r cynlluniau a’r achos busnes llawn.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn arwain cynllun i ailwampio gorsaf drenau brysuraf Cymru ac mae'r delweddau newydd yn rhoi cipolwg ar sut olwg allai fod ar yr orsaf yn y dyfodol.
Nid yn unig bydd y gwelliannau arfaethedig yn moderneiddio'r orsaf ac yn helpu gyda chynnydd mewn nifer teithwyr yn yr hirdymor, ond bydd yn dathlu hanes a threftadaeth yr adeilad ar yr un pryd.
Y ffocws fydd ar liniaru gorlenwi a thagfeydd a gwneud yr orsaf yn fwy hygyrch i'r rheini sy’n cael anhawster i symud.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu cyntedd mwy o faint er mwyn creu mwy o le i deithwyr, gwella llif teithwyr a mynediad drwy gatiau ychwanegol a helpu cwsmeriaid i gysylltu â dulliau eraill o deithio i barhau a’u taith.
Ymysg y manteision eraill i gwsmeriaid fydd cyfleusterau aros, siopau a lle i barcio beiciau.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Heddiw, rydym wedi cyhoeddi delweddau sy’n dangos sut olwg allai fod ar orsaf Caerdydd Canolog fel rhan o gynlluniau i wella’r orsaf.
“Gyda buddsoddiad o hyd at £140 miliwn, gallwn wneud gwelliannau i orsaf Caerdydd Canolog I'w gwneud yn addas i wasanaethu prif ddinas ag i ymdopi a thwf mewn nifer teithwyr yn y dyfodol.
“Mae’r cynigion ar gyfer yr orsaf yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd ac mae’n cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol.
"Rydym wedi cyflwyno achos busnes llawn ar gyfer y cynllun ac mewn dim, byddwn yn cyflwyno’r dogfennau cynllunio. Os caiff y cynllun y golau gwyrdd, gallwn fwrw ymlaen â’r gwelliannau."
Bydd yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £140 miliwn ar gyfer y gwelliannau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad sylweddol ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys £800m i ddarparu fflyd newydd sbon o drenau. Mae teithwyr eisoes yn gweld y manteision gyda gwasanaethau cyflymach, amlach a thocynnau rhatach trwy ‘tapio i mewn ac allan’ mewn 95 o orsafoedd.
Nodiadau i olygyddion
Er gwybodaeth, mae’r delweddau a rennir at ddibenion enghreifftiol yn unig a gallant newid wrth i gynlluniau ddatblygu. Disgwylir penderfyniad am yr achos busnes llawn yn hydref 2025.
Disgwylir i waith galluogi, sydd angen ei wneud ar ochr ddeheuol yr orsaf er mwyn i TrC allu cyflawni’r gwaith adeiladu cyfan, yn hwyrach yn 2025.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynllun yma: https://trc.cymru/prosiectau/gwelliannau-canolog-caerdydd
Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi’r orsaf, sydd mewn perchnogaeth Network Rail, i fod yn rhan o ganolfan drafnidiaeth integredig yng nghanol y ddinas, sef Metro Canolog, a fydd yn hwyluso hygyrchedd, ffyrdd o deithio mwy cysylltiedig a chynaliadwy, yn ogystal â chefnogi economi amrywiol sy’n ffynnu a chreu porth eiconig i Gymru.
Caiff y gwaith ar y Metro Canolog ei gyflawni gan y gynghrair Ganolog, sef partneriaeth ble mae sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn cydweithio i drawsnewid teithio yng nghanol Caerdydd.
Bydd cynghrair Ganolog yn cydweithio i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng bws, trên, cerdded, olwynio a beicio er mwyn annog teithio cynaliadwy.
Bydd y cynllun yn gwella prif hwb trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan annog unigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd yr aer ac yn lleihau allyriadau carbon. Dyma’r brif orsaf Metro ar gyfer rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, rhwydwaith sydd wrthi’n cael ei drawsnewid fel rhan o brosiect Metro De Cymru.