15 Rhag 2021
Mae teithwyr rheilffordd yng Nghymru a’r gororau yn cael eu hannog i wirio cyn teithio dros yr ŵyl wrth i waith peirianneg gael ei gynnal ar hyd y rhwydwaith.
Mae hyn yn cynnwys gwaith parhaus Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu Metro De Cymru, lle bydd bysiau yn cymryd lle trenau rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful ac Aberdâr o ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr hyd nes ddydd Iau 6 Ionawr.
Mae trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.
Bydd y cyfnod cloi yn caniatáu i waith peirianneg gael ei wneud, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon. Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd. Bydd gwasanaethau rhwng Radur, Pontypridd a Threherbert hefyd yn parhau i gael eu disodli gan fysiau gyda'r nos tra bydd gwaith dros nos yn cael ei wneud.
Mae Network Rail yn parhau i weithio ar brosiect ailwampio gwerth £30m ar Draphont eiconig Y Bermo yng Ngwynedd, gan ddiogelu'r cyswllt trafnidiaeth hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd Llinell Arfordir y Cambrian rhwng Machynlleth a Phwllheli yn parhau i fod ar gau tan ddydd Mercher 29 Rhagfyr, gyda bysiau yn rhedeg yn lle trenau.
Bydd gwasanaethau trên rhwng Amwythig a Crewe yn cael eu disodli gan fysiau ar 27 a 28 Rhagfyr wrth i Network Rail ymgymryd â gwaith i ddisodli pont Mill Street yn Wem. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd rhwng 11pm ar Noswyl Nadolig a bore 29 Rhagfyr. O’i chwblhau, bydd y bont newydd sbon yn sicrhau profiad mwy dibynadwy i deithwyr rheilffordd a defnyddwyr ffyrdd yng ngogledd Swydd Amwythig.
Mae Network Rail yn manteisio ar y ffaith y bydd y rheilffordd ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan er mwyn cynnal prosiectau allweddol mewn partneriaeth â dau awdurdod lleol ar hyd Prif Linell De Cymru. Gan weithio gyda Chyngor Casnewydd, bydd pont droed newydd sbon, cwbl hygyrch yn cael ei hadeiladu yng ngorsaf reilffordd Casnewydd, gan wneud teithio'n haws i deithwyr trwy gysylltu Devon Place a Queensway. Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar wasanaethau trên.
Yn y cyfamser, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Network Rail a chontractwyr eraill yn cydweithio i dynnu i lawr pont droed rheilffordd Llanharan, ger yr A473, yn Llanharan. Nid yw'r hen bont droed bellach yn addas at y diben a bydd contractwr y cyngor yn dechrau gweithio ar ailadeiladu'r bont ym mis Chwefror 2022. Atgoffir cerddwyr i ddilyn y gwyriadau sydd ar waith yn y ddau leoliad tra bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Hefyd, rhwng 27 a 31 Rhagfyr, bydd diwygiad i wasanaethau Great Western Railway rhwng Llundain a De Cymru gan y bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianneg. Bydd gwasanaethau'n cael eu dargyfeirio rhwng Casnewydd a Swindon, a fydd yn ychwanegu tua 25 munud ar hyd y daith. Bydd trenau'n galw yn Patchway yn lle Parcffordd Bryste, lle bydd bysiau yn gwasanaethu yn lle trenau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GWR.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gynlluniau uchelgeisiol yn TrC i ddatblygu Metro De Cymru ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n parhau i symud ymlaen â chyflawni hyn. Mae'r gwaith a gynhelir dros yr ŵyl hon yn gam mawr tuag at ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.
“Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Network Rail wrth iddyn nhw wneud gwaith hanfodol ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau i sicrhau bod gwasanaethau rheilffordd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
“Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid a’r cymdogion ar hyd y rheilffordd am eu hamynedd ac annog y rhai sydd angen teithio i gynllunio ymlaen llaw.”
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybr Cymru a’r Gororau yn Network Rail:
“Mae'r gwaith adnewyddu rydyn ni'n ei wneud dros yr Ŵyl yn hanfodol i ddyfodol hirdymor y rheilffordd yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gobeithio sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosib i deithwyr trwy wneud llawer o’r gwaith ar Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan - pan nad oes gwasanaethau trên yn rhedeg fel rhan o'r amserlen.”
“Hoffwn ddiolch i'n teithwyr am eu hamynedd parhaus a’u hatgoffa i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw.”
Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC. Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau yma.
Atgoffir cwsmeriaid hefyd bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeedig.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â Heddlu Trafnidiaeth Prydain dros yr Ŵyl i gadw teithwyr yn ddiogel. Fel rhan o Ymgyrch Genesis, bydd hyd yn oed mwy o swyddogion a staff rheilffyrdd yn gweithio ar draws y rhwydwaith trwy gydol mis Rhagfyr. Maen nhw yno i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal ag i roi cyngor a sicrwydd i'r cyhoedd a gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel.
Dywedodd Uwch-arolygydd BTP Cymru, Andy Morgan:
“Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau tymor yr Ŵyl a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
“Rheilffordd yw un o’r ffyrdd mwyaf diogel i deithio - ond rydyn ni’n gweld sut y gall alcohol amharu ar y dewisiadau a wna pobl. Mae pobl yn aml yn cymryd mwy o risgiau, a gall safonau gwedduster ac ymddygiad cyffredinol ddirywio. Rydym yn annog teithwyr i gymryd gofal ychwanegol o'u hunain ac eraill yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau eu bod yn cael taith ddiogel ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.
“Yn ogystal â’r ffaith bod swyddogion ychwanegol wrth law ar draws y rhwydwaith, rydyn ni am atgoffa teithwyr o’n gwasanaeth testun cyfrinachgar. Arbedwch y rhif '61016' i’ch ffôn, rhag ofn y bydd byth angen ein cymorth arnoch ar y rheilffordd."