Skip to main content

Building begins on Metro Control Centre

20 Ion 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall wrth i waith adeiladu ddechrau ar eu Depo Metro gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf.

Bydd y depo newydd yn cynnwys cyfleuster cynnal a chadw modern i wasanaethu a storio Cerbydau Metro (Trenau Tram) newydd sbon.  Bydd y ganolfan reoli sy’n goruchwylio gweithrediadau’r Metro, gan gynnwys signalau a symudiadau trenau, hefyd wedi’i lleoli yma.

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau trenau, bysiau a theithio llesol. 

Mae prosiect Metro De Cymru wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth  Cymru.

Bydd y depo newydd wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Garth Works, cyn-gartref gweithrediad enwog y Forgemasters, a bydd yn croesawu 400 o weithwyr trenau, 35 o staff cynnal a chadw trenau a 52 aelod o staff y ganolfan reoli.

Daeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, i’r digwyddiad a dywedodd:

“Mae hwn yn ddatblygiad mawr arall yng nghynlluniau Trafnidiaeth Cymru i ddarparu Metro De Cymru ar gyfer pobl De Ddwyrain Cymru.  Ddechrau’r mis hwn, agorwyd Canolfan Seilwaith Metro Trefforest ymhellach i fyny’r dyffryn, a fydd yn ganolog i’r gwaith trawsnewid, ac yma heddiw rydyn ni’n nodi dechrau’r gwaith o adeiladu’r depo newydd y bydd y Metro’n gweithredu ohoni. 

“Mae Metro De Cymru yn fuddsoddiad o dri chwarter biliwn o bunnoedd, ac mae’r depo £100 miliwn hwn yn rhan bwysig o hynny.  Bydd yn gartref i’n Cerbydau Metro newydd sbon; bydd gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw yn cael ei wneud yma; ac o fan hyn fydd y ganolfan reoli yn goruchwylio gweithrediadau.

“Mae trafnidiaeth yn cael ei drawsnewid yng Nghymru ac mae’n wych gweld enghreifftiau mwy real o gynnydd.”

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Bydd Metro De Cymru yn chwyldroi trafnidiaeth i gymunedau lleol drwy gynnig teithiau cyflymach, mwy o gapasiti, mwy o wasanaethau cyson a dibynadwy, a thrafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy.

“Mae’r seremoni arloesol yma heddiw yn arwydd pellach ein bod yn cyflawni ein haddewidion.  O fewn ychydig flynyddoedd, bydd Metro De Cymru yn cael ei redeg o’r depo hwn a bydd tua 500 o staff yn gweithio yma.

“Mae’n amser cyffrous iawn i drafnidiaeth yng Nghymru ac mae’n wych bod ein cwsmeriaid a phobl Cymru yn gallu dechrau gweld cynnydd go iawn.”

Mis Mawrth, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal sesiwn galw heibio ar gyfer aelodau o’r gymuned i gyfarfod y tîm gweithredu ac i ddarganod mwy am y safle.