Skip to main content

Chinese New Year ‘Lion Dance’ surprises commuters at Bangor Train Station

08 Chw 2019

Cafodd teithwyr yng ngorsaf drenau Bangor syndod wrth weld perfformiad o ddawns drawiadol y llew fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd y Tsieineaid.

Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd y Tsieineaid, cafodd teithwyr yng ngorsaf drenau Bangor syrpréis heddiw (dydd Gwener 8 Chwefror) wrth weld perfformiad annisgwyl o ‘Ddawns y Llew’ ar blatfform yr orsaf.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ble gwahoddwyd staff o The Garden Hotel & Cantonese Restaurant ym Mangor i gynnal y perfformiad trawiadol ar gyfer teithwyr oedd yn pasio, seremoni sy’n draddodiadol yn niwylliant Tsieina y dyweder iddi ddod â lwc a ffortiwn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Yn ystod y perfformiad annisgwyl roedd dau ddawnsiwr wedi eu gwisgo mewn gwisg llew Tsieineaidd draddodiadol, Bwda – y dyweder ei fod yn dofi’r llew ac yn diogelu ei bobl – yn ogystal â cherddorion yn chwarae drymiau a symbalau.

Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â dathliadau blynyddol Blwyddyn Newydd Tsieineaidd y dref ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror a drefnwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, sy’n nodi Blwyddyn y Mochyn.

Dywedodd Sandra Lui, trefnydd digwyddiad Dawns y Llew The Garden Hotel & Cantonese Restaurant ym Mangor: “Mae Blwyddyn Newydd y Tsieineaid yn amser i deuluoedd ddod ynghyd, dathlu dechreuad newydd a chael gwared ar unrhyw anlwc ar gyfer y flwyddyn newydd.

“Mae Dawns y Llew yn cynrychioli pŵer a doethineb, yn ogystal â chael gwared ar ysbrydion aflan a’u hamnewid am hapusrwydd, felly roedd dangos y traddodiad hwn i deithwyr yng ngorsaf drenau Bangor yn bleser. Gobeithio i’r gwylwyr fwynhau’r perfformiad ac y bydd yn dod â lwc iddyn nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”

Dywedodd Andrew Baker, Rheolwr Cymorth Gorsaf gorsaf drenau Bangor: “Roedd yn bleser cynnal y perfformiad Tsieineaidd traddodiadol hwn yng ngorsaf drenau Bangor er mwyn rhoi syrpréis i’n cwsmeriaid. Gobeithio iddo ddod â hapusrwydd i’w diwrnod.

“Mae hyn oll yn rhan o’n cynlluniau tymor hir i sicrhau bod ein cwsmeriaid wedi eu cysylltu’n well gyda phobl a chymunedau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheilffordd y gall ein cwsmeriaid ei fwynhau a bod yn falch ohono.”  

Dywedodd Kelvin Rowlands, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Bangor: “Mae’n bleser croesawu’r dawnswyr llew Tsieineaidd i orsaf drenau Bangor ac mae’n fraint rhannu’r dathliadau gyda chymuned amrywiol Bangor.”

Blwyddyn y Mochyn yw 2019 ac mae Dawns y Llew yn ddawns draddodiadol yn Niwylliant Tseina a gwledydd Asiaidd eraill ble mae perfformwyr yn dynwared symudiadau llew mewn gwisg er mwyn dod â lwc a ffortiwn.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ewch i www.trc.cymru.