Skip to main content

Success of sustainable transport in North Wales celebrated during Better Transport Week

20 Meh 2024

Dathlu llwyddiant gwasanaethau bysiau Gogledd Cymru yn ystod Wythnos Trafnidiaeth Well (Mehefin 17 i 23).

Heddiw (dydd Iau 20 Mehefin), ymwelodd swyddogion o'r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well â Gogledd Cymru i roi cynnig ar wasanaethau bws Sherpa'r Wyddfa, TrawsCymru a fflecsi, gwasanaethau bws sy'n cynnig dewis mwy cynaliadwy i ymwelwyr sydd awyddus i ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri.

Lansiwyd gwasanaeth newydd Sherpa'r Wyddfa ym mis Gorffennaf 2022 ac mae llawer iawn o welliannau wedi cael ei wneud iddo. Mae'n cynnig gwasanaeth rheolaidd am 12 awr y dydd yn ystod oriau brig ac mae’n cysylltu'n uniongyrchol â phrif orsafoedd trenau. Mae'n darparu cost tocyn sy’n gyson ac mae’r gwaith ail-frandio newydd yn golygu ei fod yn gweddu i’w amgylchedd ac yn dathlu'r Gymraeg.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae'n wych gweld y gwasanaethau bysiau newydd gwell hyn ar waith yng Ngogledd Cymru. Ynghyd â'r tocyn 1bws mwy fforddiadwy, maent yn darparu dewis arall realistig, deniadol a chyfleus i'r car, gan ganiatáu i ymwelwyr fwynhau golygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri a helpu i leddfu tagfeydd traffig ar yr un pryd.”

Dywedodd Gethin George, Rheolwr Rhaglen Trafnidiaeth Integredig TrC: “Gyda miloedd o bobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri pob blwyddyn, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn sbarduno gwelliannau enfawr mewn twristiaeth gynaliadwy.

“Mae TrC wedi gweithio'n agos gyda'r parc cenedlaethol ac awdurdodau lleol i ddarparu atebion i helpu i leddfu problemau parcio yn yr ardal, datblygu rhwydweithiau newydd, gwella prisiau a dewis tocynnau a chyflwyno gwasanaethau newydd a gwell. Bellach, mae gwasanaethau TrawsCymru, fflecsi, trenau a theithio llesol yn yr ardal sy’n cefnogi gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa. Mae’r Sherpa yn cysylltu Caernarfon, Porthmadog, Bangor a Betws-y-coed gan leihau yn sylweddol nifer y cerbydau preifat sy'n teithio yn yr ardal.”

Gweithredir gwasanaeth Sherpa'r Wyddfa gan Gwynfor Coaches. Mae'n cefnogi'r ardal yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol trwy gysylltu'r prif lwybrau cerdded, meysydd parcio, pentrefi ac atyniadau'r ardal. Mae hwn yn wasanaeth i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi lansio gwasanaethau T10, T22 a fflecsi newydd yn yr ardal.

Lansiwyd T10 TrawsCymru ym mis Gorffennaf 2021 ac mae'n rhedeg o Fangor i Gorwen trwy Fetws y Coed, gan ddarparu cysylltiadau ymlaen o Gorwen sef y T3 tuag at Langollen a Wrecsam a'r T8 i gyfeiriad Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer.

Lansiwyd bysiau trydan newydd sbon o'r radd flaenaf sy'n cefnogi teithio cynaliadwy yng Ngwynedd ym mis Chwefror eleni. Mae T22 newydd TrawsCymru yn cynnig gwasanaeth pob awr rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, a phob dwy awr rhwng Porthmadog a Chaernarfon.

Mae gwasanaethau fflecsi newydd yn Nolgellau a Machynlleth hefyd ar waith, gan ymuno â gwasanaeth tymhorol poblogaidd Pen Llŷn, a ail-lansiwyd ym mis Mawrth, a gwasanaeth fflecsi Dyffryn Conwy sy'n rhedeg am fwy o amser. Mae’r bws fflecsi yn nodwedd amlwg iawn ym Metws y Coed. Mae'r gwasanaethau hyn yn gwella cysylltiadau i deithio ymlaen ac yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.

Yn ogystal, mae'r holl weithredwyr ac awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru wedi cyd-weithio ar gyflwyno'r tocyn 1bws. Tocyn yw hwn sy'n galluogi pobl i deithio ledled yr ardal gyfan am ddim mwy na £6.50 y dydd gan ddefnyddio gwasanaeth sawl gweithredwr. Yn ddiweddar, cyflwynwyd technoleg tapio ymlaen/tapio i ffwrdd sy'n annog teithwyr newydd i ddefnyddio'r gwasanaeth, yn dawel eu meddwl na fyddant y daith yn costio mwy na £6.50 am y dydd.

Nodyn i olygyddion - i gael rhagor o wybodaeth ewch i Mwynhewch y golygfeydd ar y T10 - Trafnidiaeth Cymru (traws.cymru) T10 - Bangor i Gorwen | Trafnidiaeth Cymru (traws.cymru)

Cynhelir Wythnos Trafnidiaeth Well   yn flynyddol am wythnos o hyd ac mae’n dathlu trafnidiaeth gynaliadwy sy'n gwneud ein bywydau yn well. Cynhelir Wythnos Trafnidiaeth Well 2024 rhwng 17 a 23 Mehefin. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar:   http://bettertransportweek.org.uk  

Mae Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well   ar waith yng Nghymru a Lloegr. Gweledigaeth yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well yw bod gan drigolion ein cymunedau fynediad at drafnidiaeth gynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion, yn gwella ansawdd bywyd ac yn diogelu'r amgylchedd. Mae Ymgyrch Ymddiriedolaeth Elusennol Trafnidiaeth Well yn elusen gofrestredig (1101929).