Skip to main content

Major sustainable travel proposals for Newport city centre unveiled

24 Chw 2023

Datgelwyd cynigion i wneud gwelliannau sylweddol i deithio cynaliadwy ynghanol dinas Casnewydd.

Mae'r cynlluniau, a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd heddiw (dydd Gwener 24 Chwefror), yn nodi cyfres o welliannau i orsaf drenau Casnewydd, Queensway a chylchdro Old Green.

Mae gwahoddiad i aelodau'r cyhoedd roi eu barn fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar y cynigion sy'n para o heddiw tan 6 Ebrill. 

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Cyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus newydd yng ngorsaf reilffordd Casnewydd, yn cysylltu gwasanaethau trenau a bysiau, gan wneud yr orsaf yn ganolbwynt teithio cynaliadwy
  • Cyfnewidfa newydd i ddisodli cylchdro Old Green, gyda lonydd blaenoriaeth i fysiau a llwybrau teithio llesol symlach sy'n gyfleus ac yn ddeniadol i'r holl ddefnyddwyr
  • Gwell cysylltiadau teithio llesol rhwng Old Green, canol y ddinas a glan yr afon.

Mae'r cynigion yn dwyn yn eu blaen brif argymhellion  Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru sy'n cael ei oruchwylio gan Uned Gyflenwi Burns.

Mae'r uned, sy'n cael ei harwain gan Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Chaerdydd, yn datblygu rhwydwaith teithio cynaliadwy ar draws y de-ddwyrain. 

Ar ôl cwblhau’r rhwydwaith, y canlyniad fydd mai cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fydd yr opsiwn hawdd i bobl. 

Dywedodd Geoff Ogden, prif swyddog cynllunio a datblygu trafnidiaeth Trafnidiaeth Cymru:  "Mae gan y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad y potensial i wella teithio yng Nghasnewydd yn sylweddol drwy gynnig cysylltiadau gwell rhwng trenau a bysiau a llwybrau gwell ar gyfer cerdded, beicio a cherbydau symudedd.

"Byddem yn annog cymaint o bobl â phosib i ddweud eu dweud ar yr ymgynghoriad, er mwyn helpu i lywio'r cynlluniau pwysig hyn ar gyfer y ddinas."

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth: "Mae datblygu llwybrau teithio llesol ochr yn ochr â gwasanaethau bysiau a threnau yn ganolog i'n cynlluniau i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis amgen i ddefnyddio'r car.

"Rwy'n falch o weld Uned Cyflenwi Burns, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio i wireddu'r cynlluniau hyn, gan sicrhau mai'r peth cywir i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud i bobl Casnewydd."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae adeiladu Casnewydd gryfach, werddach yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Mae rhoi mwy o gyfle i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chynnig mwy o ddewisiadau i bobl deithio’n llesol yn rhan bwysig o'r gwaith hwn.

"Gobeithio y bydd y cynigion rydyn ni wedi'u datblygu gyda'n partneriaid yn helpu pobl i fod yn llai dibynnol ar geir wrth sicrhau newid gwirioneddol, cynaliadwy i'n dinas.

"Mae'r cynigion hyn ar gyfer pobl Casnewydd, a byddwn yn annog pawb sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas ac yn ymweld â hi i edrych ar y cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn."

Mae rhagor o fanylion am y cynigion, yn ogystal â'r ddolen i ddweud eich dweud ar y cynlluniau, i'w gweld ar safle’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Nodiadau i olygyddion


Yn 2019, sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, i ymchwilio i ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar draffordd yr M4 yn y De-ddwyrain. 

Canfu'r Arglwydd Burns nad oes gan lawer o bobl ddewisiadau trafnidiaeth amgen da i’r draffordd a bod angen opsiynau trafnidiaeth newydd sylweddol. 

Sefydlwyd Uned Gyflenwi Burns yn 2021 i oruchwylio’r gwaith o weithredu'r 58 o argymhellion a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ym mis Tachwedd 2020, pob un yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.

Ceir mwy o wybodaeth am waith yr uned yn Uned Gyflenwi Burns