03 Tach 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu cynlluniau ar gyfer trenau amlach, gorsafoedd newydd posibl a chysylltiadau rheilffordd newydd ar draws Abertawe a gorllewin Cymru.
Gallai cynigion Metro Bae Abertawe a gorllewin Cymru roi mwy o ddewis i deithwyr ynghylch pryd y maent yn teithio, a dod â gwasanaethau rheilffordd yn nes at fwy o gymunedau, gan ei gwneud yn haws cyrraedd swyddi, addysg, gofal iechyd a chyfleoedd hamdden heb orfod dibynnu ar gar.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys dau lwybr: Abertawe i Ben-bre a Phorth Tywyn, ac Abertawe i Rydaman trwy Gastell-nedd.
Gyda’i gilydd, gallent ehangu’r teithiau trên sydd ar gael ar draws y rhanbarth, gyda chysylltiadau â’r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwneud teithiau ymlaen i gyrchfannau pellach.
Mae TrC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Corfforedig de-orllewin Cymru, awdurdodau lleol rhanbarthol a Network Rail i ddatblygu'r cynigion.
Mwy o ddewis ar gyfer teithiau rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn
Mae Cam A yn cynnig hyd at ddau drên ychwanegol yr awr rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn. Gallai gwasanaethau amlach roi mwy o hyblygrwydd i deithwyr wrth gynllunio teithiau dyddiol, gan wneud y rheilffordd yn opsiwn mwy ymarferol o deithio i'r gwaith, astudio, mynychu apwyntiadau neu fwynhau gweithgareddau hamdden.
Gallai gorsaf newydd bosibl yn y Cocyd roi ffordd newydd i bobl leol gael mynediad at y rheilffordd a theithio tuag at Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin a thu hwnt.
Er mwyn cefnogi gwasanaethau sy'n amlach ac yn fwy dibynadwy, mae'r cynigion yn cynnwys ychwanegu platfform newydd yng ngorsaf Abertawe a newidiadau ym Mhen-bre a Phorth Tywyn, er mwyn galluogi trenau i newid cyfeiriad yn haws. Gallai'r gwelliannau hyn helpu i ddarparu'r capasiti a'r hyblygrwydd gweithredol sydd eu hangen.
Cysylltiadau newydd rhwng Abertawe a Rhydaman trwy Gastell-nedd
Mae Cam B, sydd ar gam cynharach o ran ei ddatblygiad, yn cynnig hyd at ddau wasanaeth trên newydd yr awr rhwng Abertawe a Rhydaman, trwy Gastell-nedd.
Gallai gorsafoedd newydd posibl yng Nglandŵr, Winsh-wen, Treforys, Llandarcy, Felindre, Pont-lliw a Rhydaman ddod â mwy o gymunedau o fewn cyrraedd i'r rhwydwaith. Byddai'r gwasanaethau arfaethedig hefyd yn cysylltu â gwasanaethau rheilffordd eraill yng Nghastell-nedd, gan agor y ffordd ar gyfer teithio ymlaen i gyfeiriad Caerdydd ac ymhellach i ffwrdd.
Byddai trac newydd sy'n cysylltu dwy linell reilffordd, ynghyd â gwelliannau i'r cledrau a'r signalau, yn helpu i alluogi'r gwasanaethau arfaethedig rhwng Abertawe a Rhydaman. I deithwyr, gallai'r gwaith hwn wneud cysylltiadau rheilffordd newydd yn bosibl.
Datblygu’r cynlluniau
Mae'r cynigion yn adeiladu ar astudiaeth fanwl a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2021, ac maent wedi cael eu datblygu ar y cyd â phartneriaid o bob rhan o'r rhanbarth a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach.
Mae angen gwaith datblygu ac asesu ymhellach cyn y gellir gweithredu'r cynigion ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith datblygu. Ar hyn o bryd, nid oes cyllid llawn ar gael ar gyfer gweithredu'r naill gam na'r llall; bydd hynny'n dibynnu ar sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper: “Os ydych chi’n defnyddio’r trên i deithio at ddibenion gwaith neu hamdden – neu hyd yn oed os nad ydych chi byth yn defnyddio’r trên yn Abertawe a Gorllewin Cymru – dywedwch wrthym sut y gellir gwella pethau, neu beth sydd angen digwydd er mwyn i chi ddefnyddio’r trên.
“Rydym am i Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru wneud teithio ar y trên mor hawdd a chyfleus â phosibl. Er mwyn ein helpu i gyflawni hynny, mae angen i ni wybod am eich profiadau a’ch anghenion.”
Dywedodd Amanda Phillips, Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol yn Trafnidiaeth Cymru: "Rydym am roi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â sut maent yn teithio, gyda threnau amlach a chysylltiadau newydd rhwng cymunedau ar draws Bae Abertawe a gorllewin Cymru. Bydd clywed gan bobl leol yn ein helpu i ddatblygu cynlluniau sy'n diwallu eu hanghenion.
"Cynigion hirdymor yw'r rhain ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd; dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn clywed gan bobl nawr. P'un a ydych yn teithio'n rheolaidd ar drafnidiaeth gyhoeddus neu'n ei defnyddio'n anaml, gall eich profiad o symud o gwmpas y rhanbarth ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen ar gymunedau yn well.
"Byddwn yn annog pobl i gymryd ychydig funudau i gwblhau ein harolwg a rhannu eu barn."
Cyfle i ddweud eich dweud
Bydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn digwydd o 3 Tachwedd tan 13 Rhagfyr 2026. Gall cymunedau rannu sut maent yn teithio ar hyn o bryd, a fyddent yn defnyddio'r gwasanaethau arfaethedig a pha orsafoedd, gwelliannau a threfniadau mynediad sydd bwysicaf iddynt. Bydd yr adborth yn helpu i lunio cam nesaf y datblygiad.
I gael gwybod mwy a chwblhau'r arolwg, ewch i Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth | Trafnidiaeth Cymru