01 Mai 2024
O 2 Mehefin, bydd teithwyr o bob rhan o Gymoedd De Cymru a Chaerdydd yn elwa ar wasanaethau amlach a hwyrach gyda’r nos, wrth i waith Metro De Cymru symud gam arall ymlaen.
Bydd amserlenni newydd ar linellau Merthyr, Aberdâr, Treherbert, Rhymni, Lein y Ddinas a Coryton yn darparu gwasanaethau mwy rheolaidd gan wella cysylltedd rhwng Cymoedd De Cymru a'r brifddinas.
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:
- Cynnydd o 6 i 8 trên yr awr rhwng Caerdydd a Phontypridd, gyda'r 8 yn galw yn Ystâd Trefforest
- Cynnydd o 4 i 6 trên yr awr rhwng Caerffili a Chaerdydd
- Cynnydd o 1 i 2 drên yr awr rhwng Rhymni a Chaerdydd
- Gwasanaethau amlach gyda'r nos rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr
- Gwasanaeth ar ddydd Sul ar hyd Lein y Ddinas Caerdydd am y tro cyntaf
- Gwasanaeth newydd rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd heb orfod newid yn Heol y Frenhines
Bydd y newidiadau hyn yn dynodi ffordd newydd o deithio, gan ddarparu mwy o ddewis i deithwyr ac, ar rai llwybrau, yn cynnig teithiau cyflymach wrth fynd a dod o’r ddinas.
Er enghraifft, o fis Mehefin ymlaen, bydd cwsmeriaid sy'n teithio o Aberdâr, Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines yn cael yr opsiwn i newid trenau ym Mhontypridd neu Radur er mwyn cyrraedd eu cyrchfan yn gynt.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, Ken Skates: "Mae hwn yn gam pwysig ar y daith i gyflawni Metro De Cymru.
"Bydd yr amserlen newydd yn golygu teithiau amlach i deithwyr - gwella cysylltedd, cysylltu pobl a chreu cyfleoedd."
Mae'r gwelliannau hyn i'r amserlen yn gam arall tuag at gyflawni Metro De Cymru, a fydd yn y pen draw yn gweld 4 trên yr awr yn teithio yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr, Rhymni a Merthyr.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: "Bydd y newid hwn yn creu llu o fuddiannau i gwsmeriaid ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd.
"Rydyn ni'n gwneud y newid nawr fel y gall pobl fanteisio ar y newidiadau hyn cyn y byddwn yn dechrau rhedeg trenau trydan ar hyd y llinellau. Nid yn unig bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn amlach ond bydd y daith yn gynt hefyd.
"Y neges allweddol yw cofiwch wirio cyn teithio ar hyd llinellau craidd y cymoedd."
Bydd mân newidiadau yn digwydd ar rannau eraill y brif lein a dylai pob cwsmer wirio manylion eu taith o 2 Mehefin ymlaen i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf.
I gael gwybod mwy am y newidiadau diweddar, cliciwch yma
I gael gwybod am welliannau diweddar eraill ar draws ein rhwydwaith cyfan, cliciwch yma
Gall cwsmeriaid chwilio am fanylion teithiau yn y dyfodol YMA
Nodiadau i olygyddion
Newidiadau Metro
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o’r cam nesaf o Metro De Cymru, a fydd yn y pen draw yn gweld 4 trên yr awr yn teithio yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr, Rhymni a Merthyr.
Er mwyn rhedeg gwasanaethau ychwanegol drwy Gaerdydd, bydd gwasanaethau Aberdâr yn rhedeg ar hyd Lein Dinas Caerdydd i Gaerdydd Canolog cyn troi yn ôl trwy Heol y Frenhines Caerdydd i Ferthyr Tudful, yn hytrach na rhedeg ymlaen i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ynys y Barri trwy Fro Morgannwg fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Bydd trenau o Ferthyr Tudful yn cyrraedd Caerdydd trwy Heol y Frenhines i Gaerdydd Canolog a byddant yn troi yn ôl ar hyd Lein y Ddinas Caerdydd i Aberdâr.
Yn sgil y newidiadau, bydd gwasanaethau Aberdâr yn galw yng ngorsafoedd Lein Dinas Caerdydd, gan gynnwys Y Tyllgoed a Pharc Ninian, sy’n agos i Heol Sloper, ardal lle mae llawer o bobl yn gweithio a lle mae cyfleusterau chwaraeon a pharc manwerthu.
I gwsmeriaid yn Aberdâr sydd eisiau cyrraedd Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines yn gynt, gallan nhw newid gwasanaeth ym Mhontypridd neu Radyr.
Bydd y trenau fydd yn rhedeg ar hyd lein Rhymni (gan gynnwys Caerffili a Bargod) yn galw ym Mhenarth, Ynys y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr ar hyd lein Bro Morgannwg.
Bydd trenau o Coryton nawr yn rhedeg trwy Caerdydd Canolog i Benarth, yn hytrach na dilyn y llwybr i Radur ar hyd lein Dinas Caerdydd.
Gwelliannau diweddar mewn mannau eraill yng Nghymru
Yn ogystal â'r gwelliannau allweddol hyn sy'n cael eu cyflawni yn ne Cymru fel rhan o amserlen mis Mehefin, mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi gweld gwelliant enfawr o ran perfformiad ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston yn ddiweddar.
Roedd hyn yn dilyn y newid i’r amserlenni ym mis Rhagfyr 2023 lle gwelodd y lein gynnydd i un trên bob 45 munud.
Mae hyn ochr yn ochr â chynnydd enfawr o 65% yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r rhwydwaith bysiau T1 sy'n cysylltu Caerfyrddin ag Aberystwyth.
Eleni hefyd mae gwasanaethau uniongyrchol Glyn Ebwy i Gasnewydd wedi cael eu cyflwyno am y tro cyntaf ers 60 mlynedd, yn ogystal â gwasanaethau rheilffordd bob awr rhwng Caer a Lerpwl yn cael eu hailgyflwyno a threnau newydd sbon a gyflwynwyd i orllewin Cymru, Maesteg a Glyn Ebwy.
Bydd ein hamserlen mis Mehefin 2024 yn gweld cynnydd yn y gwasanaethau rhwng Caerdydd Canolog a Cheltenham Spa.