05 Tach 2024
Yn dilyn y gwrthdrawiad rheilffordd ym Mhowys ddydd Llun 21 Hydref 2024, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi cydweithredu’n llawn â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd.
Gan fod ymchwiliadau’n dal i fynd ymlaen, byddwn yn parhau i gydweithio ag ymchwilwyr i ddeall beth ddigwyddodd ac aros am gasgliad llawn ac argymhellion yr ymchwiliad.
Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth bob amser i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr, ac rydym wedi cynnal gwiriadau manylach ar y trenau a’r rheilffordd i alluogi ailagor rheilffordd y Cambrian ddydd Llun 28 Hydref 2024.
“Ar y cam cynnar hwn o’r ymchwiliad, mae’n hanfodol ein bod yn aros am ganfyddiadau’r adroddiad llawn ac yn dangos sensitifrwydd tuag at ein cwsmeriaid, cydweithwyr, y gymuned leol a theuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad.