Skip to main content

Catch the bus with 50% off selected TrawsCymru tickets this September

18 Medi 2023

I ddathlu Mis Dal y Bws y mis Medi hwn, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn hwyluso teithio cynaliadwy ar fysiau drwy gynnig 50% oddi ar bryniannau ap TrawsCymru am y tro cyntaf ar rai llwybrau TrawsCymru.

Gall defnyddwyr newydd ap TrawsCymru dderbyn prisiau hanner pris am docynnau dethol ar y gwasanaethau T1, T1C, T2, T3, T8 a T10. Bydd angen i gwsmeriaid nodi'r cod CBM23 wrth brynu eu tocynnau i dderbyn y cynnig.

Gellir actifadu’r tocynnau hanner pris unrhyw bryd o fewn 12 mis o’u prynu a’u defnyddio i deithio i leoliadau gwych gan gynnwys Aberystwyth, Abermaw, Bangor, Betws-y-Coed, Caerdydd, Caer a Wrecsam.

Bydd angen prynu tocynnau erbyn 30 Medi ond gellir eu defnyddio unrhyw bryd o fewn 12 mis i'w prynu.

Rydym yn falch o fod yn cefnogi Mis Dal y Bws – ymgyrch ledled y DU a arweinir gan Bus Users UK sy’n helpu i hyrwyddo’r bws fel ffordd iach, gynhwysol a chynaliadwy o deithio.

Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: “Rwy’n falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad hanner pris ar docynnau i gwsmeriaid newydd sy’n defnyddio ap TrawsCymru, i gefnogi Mis Dal y Bws y mis Medi hwn.

“Mae gwasanaethau bysiau TrawsCymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau ledled Cymru, tra hefyd yn ffordd gost-effeithiol, cynaliadwy a hygyrch o fynd o gwmpas.

“Mae nifer y teithwyr yn parhau i godi ar draws rhwydwaith TrawsCymru, yn enwedig ar lwybr T1, lle bu i ni basio 100,000 o deithwyr yn ddiweddar ers i ni gyflwyno fflyd newydd o fysiau trydan ym mis Mawrth.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn annog mwy o bobl yng Nghymru i ystyried cynnwys bysiau yn eu dewisiadau teithio yn y dyfodol.”

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld beth arall rydyn ni'n ei wneud ar gyfer Mis Dal y Bws.

Nodiadau i olygyddion


Mae rhestr lawn o delerau ac amodau isod:

  • Bydd y cod hwn yn ddilys o 00:01 12 Medi i 23:59 30 Medi 2023.
  • Yn ddilys ar bryniannau ap tro cyntaf yn unig.
  • Mae'r cod hwn yn ddefnydd un-amser yn unig fesul cwsmer.
  • Mae'r cod CBM23 yn ddilys ar y pryniannau tocyn canlynol yn unig:
  • T1: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 tocyn taith, diwrnod ac wythnos
  • T1C: Oedolyn, plentyn a dan 21 - tocynnau diwrnod
  • T2: Oedolyn, plentyn a dan 21 – 10 tocyn taith a diwrnod
  • T3: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 taith, tocyn sengl a thocynnau dydd
  • T8: Oedolyn a phlentyn - tocynnau diwrnod ac wythnos
  • T10: Oedolyn, plentyn a dan 21 - 10 tocyn taith, diwrnod ac wythnos
  • Gellir actifadu eich tocyn unrhyw bryd o fewn 12 mis i'w brynu.
  • Sylwch, pan fydd yn eu hactifadu, bydd dilysrwydd cyfyngedig i docynnau.