16 Tach 2023
Mae trên, sydd wedi cael ei enwi yn ‘Carew Castle Express / Castell Caeriw Cyflym’, wedi cael ei ddadorchuddio i glustnodi cyflwyno trenau Trafnidiaeth Cymru (TrC) newydd sbon rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.
Enwyd y trên fel rhan o gystadleuaeth Taith Drên Odidog TrC a dewiswyd yr enw ‘‘Carew Castle Express / Castell Caeriw Cyflym’ gan Rhys Protheroe, disgybl blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Johnstown yng Nghaerfyrddin.
Heddiw, gwahoddwyd Rhys a phlant eraill o'r ysgol i Orsaf Reilffordd Caerfyrddin (dydd Iau 16 Tachwedd) i weld yr enw buddugol yn cael ei ddadorchuddio ar ochr un o drenau Dosbarth 197 newydd sbon TrC.
Dechreuodd y trenau Dosbarth 197 ar eu gwaith yn ddiweddar yn gwasanaethu rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, trenau sydd a mwy o le arnynt ac sy'n hynod o gyffyrddus. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno'r trenau ymhellach i'r gorllewin o Aberdaugleddau a Harbwr Abergwaun. Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Cyn bo hir, y trenau newydd sbon hyn fydd yn gwasanaethu teithiau i'r gorllewin o Gaerfyrddin.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC: “Mae TrC yn eithriadol o hapus bod y trenau newydd sbon bellach ar waith yng Ngorllewin Cymru. Yn ogystal, pob rhyw ychydig wythnosau, mae mwy o mwy o drenau yn dechrau ar eu gwaith ar ein rhwydwaith.
“Mae'r trenau newydd hyn wir yn trawsnewid profiad y cwsmer ac wrth i ni ychwanegu mwy at ein rhwydwaith, rydym yn adeiladu cydnerthedd ac yn gweld gwelliant yn ein perfformiad.
“Rydym yn falch iawn o allu gwahodd un o enillwyr cystadleuaeth Y Daith Drên Odidog i weld yr enw buddugol yn cael ei ddadorchuddio ar y trên. Bydd hyn yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o deithwyr i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus.”
Fel rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd, cyflwynodd TrC y trenau Dosbarth 197 i rwydwaith Cymru a'r Gororau am y tro cyntaf ar ddechrau'r flwyddyn hon.
Dros y misoedd nesaf a thrwy gydol y flwyddyn nesaf, bydd TrC yn parhau i ychwanegu trenau newydd at eu rhwydwaith, gyda 37 o drenau Dosbarth 197 eisoes ar waith a 40 arall ar fin cael eu cyflwyno.