04 Meh 2026
Cafodd gosodiad celf newydd o dan arweiniad y gymuned sy’n dathlu hunaniaeth, tirwedd a straeon Prees ei ddadorchuddio yng ngorsaf Prees fel rhan o Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol eleni.
Ariannwyd y prosiect, o’r enw ‘Llinellau Trwy’r Tir, gan Trafnidiaeth Cymru a’i arwain gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig mewn partneriaeth â’r artist lleol Cathy Williams, disgyblion Ysgol Gynradd a Meithrinfa Eglwys Loegr Lower Heath, aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr yr orsaf.
Mae’r gwaith celf, a gafodd ei greu yn ystod cyfres o weithdai, yn archwilio gwreiddiau hynafol Prees o gyfnod yr Oes Efydd, ei ffermdir a’i fywyd gwyllt, ac mae wedi troi’r orsaf yn borth croesawgar, llawn ystyr i’r pentref.
Roedd cyfraniadau Janet, un o fabwysiadwyr gorsaf Prees, sydd â gwybodaeth helaeth am ffawna a fflora yr ardal, yn amhrisiadwy wrth helpu i ysbrydoli a siapio’r gweithiau celf. Fe wnaeth Michel, sy’n gwirfoddoli yng ngorsaf Yr Eglwys Wen, chwarae rôl werthfawr yn y prosiect hefyd, gan gyfrannu cyfres o frasluniau manwl o drenau sydd wedi’u cynnwys yn y dyluniad terfynol.
Dywedodd yr artist Cathy Williams: "Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio ar y prosiect cymunedol yma, a oedd yn bosibl diolch i gefnogaeth anhygoel staff Ysgol Gynradd Eglwys Loegr Lower Heath a brwdfrydedd y plant.
"Ar ôl cael eu hysbrydoli gan gefn gwlad a bywyd gwyllt Sir Amwythig, defnyddiodd pob un o’r pedwar dosbarth gyfryngau gwahanol i greu eu gwaith celf, a chyflwyno casgliad lliwgar ac amrywiol o ddelweddau. Mae’n wych gwybod y bydd y plant eu hunain, eu ffrindiau, teuluoedd a’r gymuned ehangach yn gallu mwynhau’r gwaith am flynyddoedd lawer i ddod.
"Mae’r prosiect yn glod i bawb oedd yn gysylltiedig â throi’r weledigaeth yn realiti, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi cael chwarae rhan ynddo."
Dywedodd Helen Reynolds, Pennaeth Ysgol Gynradd Eglwys Loegr Lower Heath: “Rydyn ni’n falch dros ben o’n disgyblion am gymryd rhan yn y prosiect. Mae Josie a Cathy wedi rhoi cyfle mor arbennig i’r plant gyfrannu rhywbeth y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
"Mae wedi rhoi gwir deimlad o bwrpas iddyn nhw, gan eu helpu i ddeall pwysigrwydd gofalu am eu cymuned a chymryd perchnogaeth dros y man lle maen nhw’n byw. Fe wnaeth y plant fwynhau pob rhan o’r broses ac roedden nhw’n llawn cyffro o wybod y bydd eu gwaith yn aros yn yr orsaf am flynyddoedd i ddod.
"Mae prosiectau fel hyn yn helpu i feithrin gwir deimlad o berthyn, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n gysylltiedig am wneud y cyfan yn bosibl.”
Mae gorsaf Prees yn ganolfan bwysig o ran cysylltiadau trafnidiaeth gwledig, ond doedd dim cysylltiad gweledol cryf rhwng yr orsaf â’r pentref mae’n ei wasanaethu a’r dirwedd sy’n ei hamgylchynu yng ngogledd Sir Amwythig. Mae’r gosodiad celf newydd yn helpu i gryfhau’r teimlad o le i deithwyr sy’n cyrraedd yr ardal, tra’n dathlu yr hyn mae Prees yn ei olygu i’r bobl sy’n byw yno.
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae creu teimlad o le gyda gwaith celf yn yr orsaf, gwaith celf sydd wedi’i greu gan gymunedau, yn creu teimlad o falchder wrth i’r prosiectau gysylltu’r cymunedau â’u rheilffordd.
"Mae’r gwaith celf yn lliwgar ac yn llawn ystyr, ac yn rhywbeth hyfryd i deithwyr ei fwynhau ar eu taith. Gwaith gwych, llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect."
Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig: “Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am y prosiect yw’r ffaith ei fod wedi dod â llawer o bobl wahanol ynghyd. Doedd dim llawer o gysylltiad rhwng yr orsaf â’r pentref o’r blaen, ond mae gweld syniadau’r plant, a gafodd eu hysbrydoli gan greadigrwydd Cathy a’u cyfuno â brasluniau Michael a gwybodaeth leol Janet, wedi newid hyn yn llwyr.
"Mae wedi bod yn wych gwylio’r gymuned yn rhoi ei stamp eu hun ar y platfformau, a’u troi yn borth gwirioneddol i bentref Prees.”
Mae’r gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol, a gydlynir gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol a’i noddi gan y Rail Delivery Group. Mae’r wythnos yn ddathliad blynyddol cenedlaethol o’r bobl a’r partneriaethau sy’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd. Mae’r thema eleni, ‘Teithiau i Bawb’, yn bwrw goleuni ar rôl hanfodol rheilffyrdd cymunedol wrth feithrin cynhwysiant, cryfhau cysylltiadau lleol a chael gwared ar rwystrau, gan helpu i sicrhau y gall pawb gael mynediad at y rheilffyrdd a mwynhau teithio ar drenau.
Mae ‘Llinellau Trwy’r Tir’, yn dangos pa mor werthfawr yw cael y gymuned i gymryd rhan i siapio mannau cyhoeddus, gyda disgyblion a phreswylwyr yn cyfrannu syniadau, delweddau a straeon sydd bellach yn rhan o osodiad celf parhaol yn yr orsaf.
Nodiadau i olygyddion
- Mae 3 Sir Gysylltiedig yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol (CRP) sydd wedi’i hachredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth (DofT) a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd. Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn cael ei chynnal gan Groundwork Gogledd Cymru.
- Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn gweithio gyda chymunedau ar hyd y rhwydwaith rheilffyrdd o Amwythig – Wrecsam – Caer – Crewe – Amwythig.
- Y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yw’r corff aelodaeth ar gyfer y mudiad rheilffyrdd cymunedol sy’n siarad ar ran rheilffyrdd cymunedol, yn rhannu mewnwelediadau ac yn cefnogi aelodau drwy gynnal gwasanaethau a digwyddiadau.
- Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol (1 – 7 June 2026) yw’r ymgyrch flynyddol genedlaethol sy’n dathlu gwaith partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau gwirfoddol gorsafoedd ledled Prydain