Skip to main content

New Rail Safety Artwork Unveiled at Rhyl Railway Station

15 Ebr 2024

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn falch iawn o ddadorchuddio dau ddarn o gelf trawiadol gyda’r nod o hybu diogelwch ar y rheilffyrdd, diolch i brosiect ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Gymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Yn dilyn achos diweddar o dresmasu gan bobl ifanc yn yr orsaf, sefydlodd PCSO Hall bartneriaeth arbennig gan ddod â’r artist graffiti talentog lleol Andy Birch a meddyliau creadigol myfyrwyr Ysgol Gatholig Crist y Gair at ei gilydd. Yn ogystal â thynnu sylw at bryderon yn ymwneud â diogelwch ar y rheilffyrdd, roedd y fenter yn gyfle i wella ymgysylltiad cymunedol a grymuso meddyliau pobl ifanc trwy gyfrwng celf.

Dros gyfnod o ddeuddydd, daeth cyfanswm o 25 disgybl, 7-11 oed, at ei gilydd i weithio’n agos â’r artist Andy Birch a PCSO Hall gan ddod â’u syniadau am ddiogelwch ar y rheiffyrdd yn fyw. Mae eu gwaith creadigol wedi arwain at ddau ddarn o waith celf trawiadol iawn sydd nid yn unig yn harddu’r orsaf ond hefyd yn atgoffa’r holl deithwyr am bwysigrwydd diogelwch ar y rheilffyrdd.

Diolch i ymroddiad diflino a gwaith ar y cyd rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Trafnidiaeth Cymru, a Groundwork Gogledd Cymru (sy’n gweinyddu Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru), mae’r gwaith celf bellach yn addurno waliau gorsaf reilffordd y Rhyl, gan atgoffa pawb sy’n cerdded drwy’r coridorau am bwysigrwydd diogelwch.

Dywedodd PCSO Hall: “Rwy’n ddiolchgar i Trafnidiaeth Cymru, Groundwork Gogledd Cymru ac Andy am roi cyfle i’r plant ysgol lleol gymryd rhan, a’n galluogi i rannu ein neges bwysig am gadw’n ddiogel ac ymddwyn yn briodol ar y rheilffyrdd. Mae’r gwaith celf yn wych a bydd miloedd o deithwyr yn ei weld dros y blynyddoedd i ddod, a dylai’r plant fod yn falch iawn o hynny.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol y Rheilffordd Gymunedol: “Rydyn ni eisiau i’n gorsafoedd deimlo eu bod yn rhan o’r gymuned ac yn gysylltiedig â hi, ac mae’r prosiect hwn a’r gwaith celf gwych gan y plant a’r bobl ifanc yn estyn croeso hyfryd i deithwyr ac ymwelwyr sy’n dod i’r dref, gan gyflwyno neges hollbwysig am ddiogelwch ar yr un pryd.”

Mae dadorchuddio’r gwaith celf am ddiogelwch y rheilffyrdd yng ngorsaf y Rhyl yn garreg filltir arall yn yr ymdrechion parhaus i wella diogelwch a lles cymunedol yn yr ardal. Mae teithwyr yn cael eu hannog i aros am eiliad i edmygu’r gwaith celf ac ystyried pwysigrwydd diogelwch wrth deithio ar y rheilffordd.

Nodiadau i olygyddion


1. Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad llawr gwlad o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol ledled Prydain, sy’n gweithio ar hyd rheilffyrdd neu mewn rhanbarthau, a grwpiau gwirfoddol o ‘gyfeillion’ gorsafoedd, er mwyn cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd. Mae dros 75 o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a 1,200 o grwpiau gwirfoddol o gyfeillion gorsafoedd ar draws Prydain www.communityrail.org.uk 

2. Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru wedi ennill achrediad Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

Fel Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol, ein nodau yw rhoi llais i’r gymuned, hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy, iach a hygyrch, dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant, a datblygiad cymdeithasol ac economaidd.