18 Rhag 2019
Mae cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd o 31 Rhagfyr 2019 ymlaen, ar ôl i raglen adnewyddu fwyaf Cymru ddod i ben.
Mae’r cynlluniau hyn yn gam pwysig tuag at helpu'r nifer bach o bobl sydd heb wneud cais am eu cardiau newydd neu heb eu cael eto.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rheoli'r rhaglen ailgyhoeddi er mwyn darparu Cardiau Teithio Rhatach newydd i bobl anabl a dros 60 oed cyn iddynt ddirwyn i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2019.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud cais am eu cardiau bws newydd hyd yn hyn. Ers mis Medi, rydyn ni wedi cael 550,000 o geisiadau, gan gynnwys 25,000 o geisiadau papur, ac mae llawer iawn o waith wedi bod yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn prosesu'r holl geisiadau mor gyflym â phosib. Fodd bynnag, mae’n bosib bod rhai pobl heb wneud cais eto, neu fod cwsmeriaid yn dal yn aros i’w cardiau newydd gyrraedd. O ganlyniad i hyn, byddwn ni’n gweithredu cyfnod gras yn y flwyddyn newydd, ac rydyn ni wedi gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gytuno ar gyfnod o ddau fis. Yn ystod y cyfnod hwn, dylai gyrwyr bysiau dderbyn hen gardiau teithio a chardiau newydd. Mae’n bwysig pwysleisio mai trefniant dros dro yw hwn ac nad ydym yn ymestyn y dyddiad cau. Bydd rhaid i’r rheini sy’n dymuno parhau i gael manteision teithio yn 2020 wneud cais am gerdyn newydd erbyn 31 Ionawr er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni amser i gyflwyno cerdyn newydd cyn 29 Chwefror.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Dywedodd y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae'r rhaglen adnewyddu wedi bod yn ymgymeriad enfawr ac mae'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi creu argraff dda arnaf. Mae llawer o bobl sy'n gymwys am docyn bws ymysg y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Er bod y rhan fwyaf o geisiadau wedi’i wneud, mae'r dyddiad dod i ben yn prysur agosáu ac rydym wedi cytuno ar gyfnod gras swyddogol. Bydd yr estyniad dros dro hwn yn rhoi mwy o amser i'r rhai sydd ei angen, ac yn helpu i leddfu pryder pobl sydd heb dderbyn eu cerdyn newydd."
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pawb sydd wedi gwneud cais yn cael eu cardiau cyn gynted â phosib, a bod y rheini sy’n dibynnu ar eu cardiau bws yn ymwybodol o'r newidiadau ac yn gwybod sut mae gwneud cais a chael mynediad at gymorth.
Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein. Mae’n cymryd tua 10 munud yn www.trc.cymru/cardiauteithio. Mae copïau caled o'r ffurflenni cais ar gael gan gynghorau lleol neu drwy ffonio 0300 303 4240.