16 Mai 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch iawn o gyhoeddi gwelliannau sylweddol i'w wasanaeth bws T3 rhwng Wrecsam a’r Bermo.
Mae TrC a'r gweithredwr bysiau wedi cydweithio i wneud cyfres o newidiadau allweddol i'r amserlen a'r llwybr, a fydd yn gwella'r dibynadwyedd cyffredinol a'i gysylltiadau â gwasanaethau eraill, yn ogystal â darparu gwasanaeth mwy hygyrch i bawb.
Daw'r newidiadau o ganlyniad uniongyrchol i adborth gwerthfawr a dderbyniwyd gan deithwyr yn ystod sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd yn Nolgellau, y Bala a Chorwen fis Tachwedd diwethaf.
Y newidiadau allweddol sy'n cael eu gwneud yw:
- Llanwuchllyn: Er y bydd gwasanaethau T3C yn parhau i wasanaethu Llanuwchllyn, bydd gwasanaethau T3 bellach yn gwasanaethu pen uchaf Llanuwchllyn (Ysgol O M Edwards) i'r ddau gyfeiriad gan sicrhau mynediad mwy diogel i'r gwasanaeth T3 ar gyfer trigolion yr ardal.
- Gwasanaeth dydd Sul: Bydd gan gymunedau yn Llanuwchllyn, Cynwyd, Llandderfel, a Llandrillo wasanaeth T3C ar ddydd Sul, gan ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer gweithgareddau hamdden, gwaith ac anghenion cymdeithasol. Mae hyn yn cael ei gyflwyno am gyfnod prawf.
- Mynediad Gwell i'r Ysbyty: Bydd pob taith bellach yn gwasanaethu Ysbyty Maelor yn Wrecsam, gan sicrhau mynediad gwell at apwyntiadau gofal iechyd a gwasanaethau meddygol.
- Trafnidiaeth Ysgol: Dydd Llun i ddydd Gwener bydd y gwasanaeth 16:32 o'r Bermo yn stopio yn Llanuwchllyn, Cynwyd, Llandderfel a Llandrillo i roi taith uniongyrchol adref i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 29 Mehefin 2025.
Dywedodd Gethin George, Rheolwr Rhaglen – Datblygu Rhwydwaith Bysiau yn TrC: “Gwrandawon ni ar adborth gan ein teithwyr ac rydym wedi gweithredu er mwyn gwella’r problemau a godwyd.
“Mae adborth y cyhoedd yn bwysig i ni ac yn ein helpu i fireinio a llunio ein gwasanaethau.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dibynadwy a hygyrch sy’n diwallu anghenion ein cymunedau a byddwn yn parhau i ymgysylltu â theithwyr ar draws rhwydwaith TrawsCymru.”
Gall teithwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwirio'r amserlen ddiweddaraf ar-lein neu lawrlwytho ap TrawsCymru i gynllunio teithiau, prynu tocynnau, olrhain y bws a darganfod eu harbedion carbon.