Skip to main content

Transport for Wales wants your views on proposed North-South express coach service

03 Maw 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynigion ar gyfer gwasanaeth bysiau cyflym newydd a fyddai’n trawsnewid cysylltedd rhwng y gogledd a’r de.  

Byddai’r gwasanaeth arfaethedig yn rhedeg rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan leihau’r daith gan 90 munud o’i gymharu ag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus gyfredol. Byddai’r gwasanaeth cyflym yn galw mewn trefi a gorsafoedd allweddol ar hyd arfordir gorllewin Cymru, gan gynnwys Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, ac Aberystwyth.  

Gyda’r daith yn para tua 4 awr 45 munud, cynigir y gwasanaeth hwn er mwyn darparu opsiwn teithio cyflymach, mwy cyfleus i dwristiaid a myfyrwyr, gan wella cysylltiadau rhwng cymunedau ar hyd y gorllewin.   

Mae’r cynlluniau’n cynnwys rhedeg hyd at wyth coets y dydd â chyfleusterau addas ar gyfer pellteroedd hir, a’r gallu i integreiddio â gwasanaethau trên er mwyn teithio ymlaen.  

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg am bedair wythnos o 3 Mawrth, gyda thudalen ‘dweud eich dweud’ ar-lein lle gall unigolion ddysgu am y cynigion a rhannu eu safbwyntiau drwy gwblhau arolwg.  

Bydd TrC hefyd yn cynnal tri digwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb ar draws y llwybr er mwyn cwrdd â defnyddwyr bws a defnyddwyr posib y dyfodol i drafod y gwasanaeth ymhellach. 

  • Dydd Llun 10 Mawrth, 11am-2pm, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ 
  • Dydd Iau 13 Mawrth, 12pm-3pm, Gorsaf Fysiau Aberystwyth, Ffordd Alexandra,  Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1LH 
  • Dydd Gwener 14 Mawrth, 12pm-3pm, Gorsaf Fysiau Caerfyrddin, Cilfach 1, Stryd Las, Caerfyrddin,  SA31 3LQ 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru, Lee Robinson: “Mae’r gwasanaeth arfaethedig hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen mewn gwella opsiynau teithio cynaliadwy rhwng y gogledd a’r de. Os hoffech rannu’ch safbwyntiau ynghylch y gwasanaeth arfaethedig, rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein a helpu i lywio’r cysylltiad trafnidiaeth sylweddol hwn i Gymru.” 

Bydd y platfform ar-lein ar gael o 3 Mawrth Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig | Trafnidiaeth Cymru

Nodiadau i olygyddion


  • Ar hyn o bryd, hyd y siwrnai rhwng Bangor a Chaerfyrddin ar drafnidiaeth gyhoeddus yw tua 6 awr 20 munud 
  • Byddai’r gwasanaeth yn rhedeg ar diesel i ddechrau cyn newid i gerbyd trydan 
  • Mae’r cynnig bellach ar gyfnod 3 o’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), sef canllawiau cynllunio ac arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Rhaid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw raglen, polisi neu brosiect trafnidiaeth sy’n gofyn am gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae WelTAG yn gosod dull strwythuredig ar gyfer rhaglenni a phrosiectau cynllunio sy’n dechrau drwy archwilio’r rhesymau dros newid cyn symud drwy gyfres o gamau rhesymegol er mwyn datblygu rhaglen neu brosiect, gan ei gyflawni a’i adolygu wedi hynny. Mae’r camau hynny’n cynnwys nodi amcanion, cwtogi opsiynau ac wedyn datblygu achos busnes ar gyfer yr amcan a ddewiswyd. Mae hefyd yn cynnwys monitro a dadansoddi’ch rhaglen neu brosiect wedi hynny. 
  • Rydyn ni bellach ar gyfnod 3 sef ymgynghori â’r cyhoedd er mwyn deall eu safbwyntiau. Noder, mae’n rhaid i bob cyfnod dderbyn cyllid ac felly, nid yw pob cyfnod y tu hwnt i'r un hwn yn sicr ar hyn o bryd.