Skip to main content

New waiting shelters installed across the Wales and Borders network

27 Chw 2023

Mae pump ar hugain o gysgodfannau aros newydd sbon yn cael eu gosod ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau fel rhan o fuddsoddiad parhaus Trafnidiaeth Cymru i wella gorsafoedd.

Bydd y cysgodfannau cwbl hygyrch hyn yn cymryd lle nifer o hen rai metel a brics ar draws y rhwydwaith, a bydd adborth gan gwsmeriaid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i arwain gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y maes hwn.

Mae camau cyntaf y prosiect eisoes wedi eu cwblhau yn Neganwy, Llanfairpwll, Penrhyndeudraeth, Rhosneigr, Penmaenmawr, Clunderwen a Johnston.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau'n fuan yn Aberdaugleddau, Tondu a Hendy-gwyn ar Daf, Rhiwabon, Frodsham, Nantwich, Tŷ Croes, Llanllieni, Llandrindod a Lydney i'w gwblhau erbyn y gwanwyn. 

Methodd Matthew Marchant, 28, teithiwr o Sir Benfro, gael ei gadair olwyn i mewn i'r gysgodfan yng ngorsaf Johnston oherwydd gwefus goncrit ar y llawr.

Cododd y mater hwn gyda staff TrC ac mae’r gysgodfan bellach wedi’i disodli gan un cwbl hygyrch.

Dywedodd Matthew: “Rwyf wrth fy modd gyda'r gysgodfan aros newydd yn Johnston.

“Roedd yr hen un ar ddarn o goncrit wedi'i godi felly roedd bron yn amhosibl cael fy nghadair olwyn i mewn yno, ymhell o fod yn ddelfrydol yn y glaw!

“Fe wnes i awgrymu bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud rhywbeth yn ei gylch ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi gwrando ar fy awgrym i helpu i wneud Johnston yn llawer mwy croesawgar a hygyrch i ddefnyddwyr y rheilffyrdd.

“Ac mae’n wych gweld cysgodfannau eraill yn yr ardal yn cael eu huwchraddio hefyd.”

Mae’r gwaith wedi’i wneud gyda chymorth Network Rail, sy’n berchen ar y mwyafrif o orsafoedd ar rwydwaith Cymru a’r Gororau.

Dywedodd uwch reolwr prosiect TrC, Catherine Sweeney: “Rydym wedi ymrwymo i wella profiad teithwyr ar draws y rhwydwaith a gwyddom, i lawer o bobl, bod hynny'n dechrau gyda'r cysgodfannau aros ar y platfform.

“Mae llawer o’n cysgodfannau yn rhai hŷn, sydd wedi cael eu difrodi dros amser a bellach ddim yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig.  Roedd codi rhai newydd yn eu lle yn gyntaf yn flaenoriaeth i ni.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n mabwysiadwyr gorsafoedd, grwpiau rheilffyrdd cymunedol a rhanddeiliaid lleol eraill.  Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn am y ein cysgodfannau newydd – mae hwn yn newyddion gwych.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith TrC mewn cymunedau ewch i trc.cymru