09 Hyd 2024
Mae Ynys y Barri wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n teithio yno wrth i'r trenau newydd i raglen ‘boblogaidd iawn!’ roi hwb i'r ardal.
Daliodd mwy na 100,000 o bobl y trên i'r Ynys ym mis Gorffennaf ac Awst, cynnydd enfawr o 57,000 o gymharu’r â’r flwyddyn flaenorol.
Mae'r cynnydd yn dilyn newid amserlen mis Mehefin lle dechreuodd y pedwar trên Dosbarth 231 newydd sbon redeg i'r Barri ac Ynys y Barri. Cadarnhawyd hefyd ym mis Mai y byddai comedi hoffus y BBC Gavin and Stacey yn dychwelyd i'n sgriniau am y tro olaf y Nadolig hwn, gan sbarduno ton newydd o ymwelwyr.
Dywedodd Marie Daley, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, ei bod yn amlwg bod rhywbeth “eithaf arbennig ar droed”.
Dywedodd: “Mae'r cynnydd rydyn ni wedi'i weld yn nifer y bobl sy'n teithio i Ynys y Barri o'r haf hwn i'r diwethaf wedi bod yn syfrdanol.
“O'n safbwynt ni, rydym wedi gallu symud rhai o'n trenau newydd sbon i lawr yno, gan gynnig profiad llawer gwell i'n cwsmeriaid, ynghyd â mwy o le nag oedd ar gael yn flaenorol.
“A chyda Gavin a Stacey yn dychwelyd am un bennod olaf, mae'n amlwg bod rhywbeth eithaf arbennig yn digwydd yn yr ardal. Gobeithio y byddwn yn gwneud ein rhan i nodi dylanwad y sioe yn ne Cymru yn fuan – cadwch lygad am unrhyw ddiweddariad!”
Mae busnesau'r ardal yn aml yn cyfeirio at y ffaith bod rhaglen Gavin and Stacey wedi’u helpu i gael “effaith gadarnhaol” ar hybu twristiaeth yn y dref ers i’r sioe gael ei darlledu am y tro cyntaf rhwng 2007 a 2010.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Y rhan gorau o unrhyw daith i Ynys y Barri yn aml yw’r daith trên a’r cipolwg cyntaf o'r arfordir. Bydd ymwelwyr diweddar wedi gweld y newidiadau enfawr i’r Dref ers cyfres olaf Gavin and Stacey.
“Mae adfywiad yr Ynys ei hun yn cyd-fynd â datblygiadau fel y Goodsheds a’r Tŷ Pwmp hanesyddol sy’n ategu datblygiad y Glannau. Gyda phedair gorsaf mae’r trenau newydd sbon yn ffordd berffaith o brofi’r cyfan sydd gan y dref i’w gynnig.”