Skip to main content

Increase in train services from December 2021

07 Rhag 2021

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith wrth i gynnydd mewn gwasanaethau trên ddod i rym ym mis Rhagfyr 2021.

O ddydd Sul 12 Rhagfyr, bydd amserlen reilffordd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a'r Gororau. Bydd hefyd yn gweld gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu hailgyflwyno rhwng Crosskeys a Chasnewydd am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd.

Er na effeithir ar lawer o amseroedd gwasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio yn drylwyr eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill o'r 12fed Rhagfyr. Mae'n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio. 

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n brysurach nag y maent wedi bod, yn enwedig yn y cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.  Ar hyn o bryd, nid oes rhaid cadw pellter cymdeithasol, ond mae gorchuddion wyneb yn orfodol, oni bai bod y teithiwr wedi’i eithrio. I'r cwsmeriaid hynny sy'n dymuno teithio ar wasanaethau tawelach, dylent ddefnyddio ein teclyn Gwirio Capasiti.

Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, oni bai eu bod wedi'u  heithrio.  Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeedig. 

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC.  Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau yma.

Cynehlir gwaith ar drawsnewid y Metro dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid wirio i ddarganfod a effeithir ar eu gwasanaeth.

Mae gwaith peirianneg mawr yn parhau ar Draphont Y Bermo tan ddydd Mercher 29 Rhagfyr.  O ganlyniad, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli.

Nodiadau i olygyddion


Newidiadau i'r Amserlen:

Gwasanaethau'r Cymoedd

  • Crosskeys - Casnewydd (gwasanaeth bob awr tan 21:20 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn). Llwybr newydd.
  • Crosskeys - Casnewydd (bob dwy awr ar ddydd Sul). Llwybr newydd.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (22:34 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol tan 31ain Rhagfyr 2021.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:02 dydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol o 3ydd Ionawr 2022.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:07 o ddydd Llun i ddydd Iau). Gwasanaeth newydd o 3ydd Ionawr 2022.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:02 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Maesteg (22:37 o ddydd Llun i ddydd Iau). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Maesteg (22:36 dydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Pont-y-pŵl a New Inn. Yr un faint o wasanaethau oedd ar gael cyn Covid yn dychwelyd.

Llinell Dinas Caerdydd (ar gyfer Ysgol Esgob Llandaf):

  •  Y Tyllgoed - Coryton (yn newid o 15:10 i 15:08). Amser gadael newydd.

Llinellau Gorllewin Cymru:

  • Caerfyrddin - Doc Penfro (21:10 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin - Doc Penfro (21:00 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Doc Penfro - Caerfyrddin (22:27 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Doc Penfro - Caerfyrddin (22:18 (dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin - Harbwr Abergwaun (18:05 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin i Harbwr Abergwaun (18:02 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Harbwr Abergwaun - Caerfyrddin (19:05 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Harbwr Abergwaun i Gaerfyrddin (19:00 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Abertawe yn parhau i Gaerfyrddin (22:27 dydd Sadwrn). Gwasanaeth newydd.

Lein Calon Cymru (o 3ydd Ionawr 2022):

  • Abertawe i'r Amwythig (09:28 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Abertawe i'r Amwythig (09:12 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Amwythig - Abertawe (05:56 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.

Llinell Arfordir y Cambrian:

  • Y Bermo - Machynlleth (06:45 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth ychwanegol.
  • Llinell Arfordir y Cambrian (gwasanaethau ganol fore Sul). Ailddechrau gwasanaethau.

Canol Wrecsam - Bidston:

  • Wrecsam Canolog - Bidston (12:34). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Wrecsam Canolog - Bidston (13:34 dydd Mawrth i ddydd Iau). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Wrecsam Cyffredinol - Bidston (21.56 dydd Llun i dydd Sadwrn). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Bidston - Wrecsam Cyffredinol (22:57 dydd Llun i dydd Sadwrn). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.

Cheltenham Spa a Chaerloyw:

  • Cheltenham Spa - Canol Caerdydd (05:37 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Caerloyw (23:20 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol. 

Gwasanaethau Bws yn lle Trên: 

  • Radur - Merthyr Tudful / Aberdâr / Treherbert (o tua 19:30 tan 24ain Mawrth 2022).

 Bydd yr amserlenni newydd yn parhau tan 15 Mai 2022, pryd byddwn yn disgwyl ychwanegu gwasanaethau ychwanegol at amserlenni cyn rhoi llwybrau twristiaeth yr haf ar waith. 

Mae'r teclyn Gwirio Capasiti yn defnyddio data defnydd a gipiwyd yn ddienw ar drenau, sy'n gofyn am wythnos o ddata cyn y gall ragweld defnydd ar wasanaethau newydd neu ddiwygiedig. Felly, am wythnos gyntaf yr amserlenni newydd, gall rhai gwasanaethau ymddangos yn 'llwyd' gan na fydd unrhyw ddata ar gael yn ystod y cyfnod cychwynnol.