Skip to main content

Transport for Wales bus pilot extends to Rhondda Cynon Taf

20 Gor 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Stagecoach yn y De i ymestyn y cynllun peilot ‘fflecsi’ i ardaloedd Tonypandy a Thonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Fflecsi yn caniatáu i bobl wneud cais am fws ymatebol sy’n eu casglu nhw ger eu cartrefi, gwaith neu siopau ar gyfer teithio hanfodol, yn hytrach na dilyn amserlen benodol mewn safleoedd bws penodol.

Lansiwyd fflecsi, sy’n cael ei gynnal gan dechnoleg gan ViaVan, am y tro cyntaf gan TrC a Bws Casnewydd ym mis Mai, gan gymryd lle nifer o wasanaethau bysiau lleol yng Nghasnewydd ac mae wedi derbyn croeso brwd yn y mis cyntaf. Ers hynny, mae wedi’i gyflwyno’n raddol gan TrC a Grŵp NAT yng ngogledd Caerdydd.

Bydd teithwyr yn gallu archebu sedd drwy ap ffôn symudol fflecsi, neu drwy ffonio 0300 234 0300. I gadw eu lle, gall teithwyr ddewis lleoliad casglu a gollwng a chael sedd mewn bws sy’n cydymffurfio’n llawn â chanllawiau iechyd cyhoeddus ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Bydd technoleg ViaVan yn cyfeirio teithwyr at “safle bws rhithwir”, gan alluogi teithiau cyflym ac effeithlon gydag eraill heb fynd ymhell i bob cyfeiriad, na dilyn llwybrau gosod ac amserlenni caeth.

Yn sgil y llwyddiant cychwynnol yng Nghasnewydd a gogledd Caerdydd, mae’r cynllun peilot yn cael ei gyflwyno’n raddol yn ardaloedd Tonypandy a Thonyrefail yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o’r cam datblygu nesaf.

Bydd llwybr 152 Stagecoach, a fydd yn troi’n wasanaeth fflecsi ar 20 Gorffennaf, yn rhedeg rhwng Tonypandy a Hendreforgan, a bydd y cymunedau a fydd yn cael eu gwasanaethu’n cynnwys Penygraig, Trewiliam, Penrhiw-fer, Tonyrefail a Thretomas.

Mae ardaloedd y gwasanaeth wedi’u trefnu ar gyfer teithiau hanfodol a byddant yn cynnwys cyrchfannau allweddol fel gorsafoedd trenau a bysiau Tonypandy, Canolfan Hamdden Tonyrefail a’r archfarchnadoedd.

Fel rhan o’r cynllun peilot yn ardaloedd Tonypandy a Thonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, bydd gwasanaethau fflecsi yn rhedeg rhwng 07:30 a 17:30, dydd Llun i ddydd Sadwrn.

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae fflecsi yn gynllun peilot cyffrous iawn i ni wrth i ni ddal ati i weddnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r pandemig Covid-19 parhaus wedi cael effaith uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn cynnig y cyfle i ni edrych ar ffordd newydd o weithredu trafnidiaeth gyhoeddus ac o dan yr amgylchiadau ar hyn o bryd bydd yn galluogi cwmnïau bysiau i symud pobl tra’n cadw pellter cymdeithasol.

“Rwy’n falch iawn bod fflecsi wedi cael croeso mor frwd yng Nghasnewydd a gogledd Caerdydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu am eu gwaith caled i gyflawni hyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth allwn ni ei ddysgu gan gam nesaf y cynllun peilot yn ardaloedd Tonypandy a Thonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, a sut gallwch ni wneud hyn o bosibl mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.”

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn y De:

“Rydym ni’n falch iawn o weithio gyda TrC a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar y prosiect bysiau hyblyg hwn ar gyfer y Rhondda Fawr. Trwy roi ail ddiben i’r cyllid a ddarperir gan Rondda Cynon Taf i redeg y Gwasanaeth 152, a chan gydweithio â TrC, gallwn gynnig cynnyrch newydd i gwsmeriaid sy’n hyblyg ac yn fwy effeithlon o bosibl na llwybr penodol a gwasanaeth amserlen gaeth. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwasanaeth newydd hwn a dysgu gan adborth cwsmeriaid ac adborth gweithredol.”

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Chludiant:

“Drwy annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto – gyda’r cyfyngiadau teithio a chyfyngiadau eraill yn cael eu llacio – gall unigolion a’r gymuned ehangach elwa, a bydd y buddion yn cynnwys llai o draffig ar ein ffyrdd, amseroedd teithio llai a llai o allyriadau carbon.

“Mae’r fenter fflecsi yn ffordd arloesol iawn o sicrhau mai’r cwsmeriaid sy’n rheoli eu taith, a gwneud teithio ar fysiau yn brofiad mwy dymunol a hygyrch i fwy o bobl.

“Rwy’n falch y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn, o ddydd Llun, ac ar ôl treialu’r cynllun yn llwyddiannus yng Nghasnewydd ac mewn ardaloedd yng Nghaerdydd, bydd yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau Tonypandy, Penygraig, Penrhiw-fer, Tonyrefail a Hendreforgan unwaith eto.”

Llwytho i Lawr