Skip to main content

New trail passport scheme launches on Wales’ most scenic railway route

24 Gor 2026

Gall cerddwyr sy'n archwilio Llwybr Lein Calon Cymru nawr gofnodi pob cam o'u taith gyda'r cynllun pasbort y llwybr a gynlluniwyd i gefnogi cymunedau gwledig.

Wedi’i ddadorchuddio ar stondin Trafnidiaeth Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru, mae’r ‘Pasbort y Llwybr’ yn galluogi cerddwyr i gofnodi eu cynnydd wrth iddynt ddarganfod y llwybr 141 milltir o hyd, sy’n dilyn Lein Calon Cymru o Craven Arms i Lanelli.

Wedi'i datblygu a'i rheoli gan Gyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru, mae'r fenter yn cael ei chefnogi gan Trafnidiaeth Cymru, Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Lein Calon Cymru (CRP). Bydd holl elw o Basbort y Llwybr yn ariannu'r gwaith parhaus o gynnal a datblygu’r llwybr.

P'un a yw cerddwyr yn cwblhau'r llwybr mewn un daith neu dros sawl ymweliad, mae'r pasbort yn caniatáu i unigolion gasglu stampiau gan fusnesau sy'n cymryd rhan sy'n gwasanaethu fel Arosfannau Stampio swyddogol gan annog pobl i ymweld â chymunedau gwledig ar hyd y daith.

Ar ôl casglu deg neu ragor o stampiau, gall cerddwyr wneud cais am anrheg am ddim a thystysgrif y llwybr i gofio am eu taith ar hyd y llwybr.

Dywedodd Lisa Denison, Cadeirydd Cyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru: “Mae Cyfeillion y Llwybr yn edrych ymlaen yn fawr i lansio pasbort y llwybr ac maen nhw’n ddiolchgar i’n hariannwyr a’n partneriaid sydd wedi helpu i wireddu’r cyfan.

"Yn ogystal â bod o fudd i gerddwyr a busnesau lleol, mae’n rhoi incwm cynaliadwy i’r elusen, a fydd yn ei dro yn ein helpu i gynnal y llwybr ar gyfer cerddwyr y dyfodol.”

Dywedodd Owen Griffkin, Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru: “Rydyn ni falch dros ben o gefnogi’r syniad gwych hwn i annog mwy o bobl i ddefnyddio Llwybr Lein Calon Cymru. Treulio amser yn yr awyr agored yn ein hardaloedd cefn gwlad gwyrdd yw un o’r ffyrdd gorau o wella llesiant meddyliol a chorfforol a bydd pobl nawr yn gallu cofnodi eu teithiau a chael eu gwobrwyo. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith y bydd y prosiect hwn hefyd yn cysylltu’r holl bobl fydd yn defnyddio’r llwybr â busnesau lleol gwych sy’n hanfodol i’n cymunedau gwledig.”

Dywedodd Rhiannon-Jane Raftery, Cydlynydd Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol (Cymru a’r Gororau) y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut gall Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Trwy gysylltu defnyddwyr y rheilffordd â busnesau lleol, mae’n codi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o grefftwyr a masnachwyr y gellir ymweld â nhw a gwario arian yn lleol yn yr ardaloedd gwledig iawn hyn.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae’n ffaith hysbys bod cerdded mewn natur yn fuddiol i lesiant ac iechyd meddyliol ac yn codi’r hwyliau, a bydd y pasbort yn dod â mwy o gyfleoedd i gefnogi datblygiad economaidd lleol, twristiaeth gynaliadwy a chreu gwell cysylltiadau rhwng cymunedau â’u rheilffordd."

Gellir prynu Pasbort Llwybr Lein Calon Cymru ar-lein ac mae’n para am byth, felly gall cerddwyr gasglu stampiau dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd hyn yn oed wrth iddynt ddarganfod gwahanol rannau o’r daith. Gallwch brynu Pasbort y Llwybr yma https://fhwlt.sumupstore.com/products 

Nodiadau i olygyddion


Lansiwyd Llwybr Lein Calon Cymru yn 2019 ac mae’n cysylltu gorsafoedd ar hyd un o reilffyrdd gwledig mwyaf Prydain, gan ei gwneud yn bosibl i fwynhau’r daith fesul darnau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd y llwybr ei greu i annog teithio cynaliadwy a dod â manteision economaidd i gymunedau ar hyd y lein.

· Mae Llwybr Cyfeillion Lein Calon Cymru yn sefydliad corfforedig elusennol a’i nod yw amddiffyn, gwella a hybu llwybr Lein Calon Cymru o Craven Arms yn Sir Amwythig i Lanelli yn Sir Gaerfyrddin.

· Ar hyn o bryd mae gan 16 o drefi a phentrefi Arosfannau Stampio yn eu siopau, caffis a thafarndai annibynnol. Mae deg o’r lleoliadau hyn yn brif ganolfannau, lle ceir o leiaf dwy arosfan stampio gydag amseroedd cyrrraedd ac agor amrywiol. Mae un Arosfan Stampio yn y chwe lleoliad arall.

· Sefydlwyd Pasbort y Llwybr diolch i nawdd gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru drwy Gronfa Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol.