Skip to main content

New Compensation scheme set to benefit rail customers as services are restored

18 Rhag 2018

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod yn symud at y cynllun “Ad-daliad am Oedi” i ddigolledu cwsmeriaid am oedi a chanslo gwasanaethau yn annisgwyl.

Gall cwsmeriaid sy’n wynebu oedi a chanslo ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru hawlio drwy gynllun newydd. Bydd yr iawndal yn seiliedig yn awr ar yr amser y dylai cwsmer fod wedi cyrraedd ei orsaf derfynol, pan mae wedi cael oedi o 30 munud neu fwy.

Fodd bynnag, yn y dyfodol mae TrC wedi ymrwymo i roi iawndal i gwsmeriaid sy’n wynebu oedi o 15 munud.   

Bydd y cynllun gwell yn ei gwneud yn haws i’r holl deithwyr ar drenau Trafnidiaeth Cymru hawlio iawndal drwy gynnig dewis ehangach o opsiynau ad-dalu, gan gynnwys trosglwyddiad banc, Paypal a rhodd i elusen.

Bydd cwsmeriaid yn elwa hefyd o ymateb cyflymach i’w hawliad, oherwydd bellach bydd hawliadau’n dechrau cael eu prosesu o fewn 48 awr i’w derbyn. Bydd system sy’n darparu mynediad ar-lein at gofnod hawliadau unigol cwsmeriaid yn galluogi cwsmeriaid i wybod beth yn union sy’n digwydd gyda’u hawliad a phryd bydd wedi’i gwblhau.

Rydyn ni’n atgoffa cwsmeriaid a wynebodd oedi dros yr Hydref fod ganddyn nhw hawl i gael iawndal ar yr amod bod hawliad yn cael ei gyflwyno cyn pen 28 diwrnod, ynghyd â chopi o’u tocyn.  

Croesawodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, y newid gan ddweud:

“Mae’n cwsmeriaid yn haeddu gwasanaeth prydlon y gallant fod yn falch ohono ac os nad ydyn ni’n darparu hynny, dylem ei gwneud mor hawdd â phosib iddynt gael eu harian yn ôl.

“Dydi pobl ddim eisiau’n gweld ni’n hollti blew neu’n pwyntio bys ynghylch beth a achosodd yr oedi oherwydd yn y pen draw mae’r effaith arnyn nhw yr un fath.

“Bydd mabwysiadu Ad-daliad am Oedi yn ei gwneud hi’n haws o lawer i’n cwsmeriaid gael iawndal os bydd pethau’n mynd o chwith ar eu siwrnai.”

Hefyd mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwella'r fflyd sydd ar gael yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac, o ddydd Llun 17eg Rhagfyr ymlaen, bydd ganddo ddigon o drenau ar gael i adfer yr holl wasanaethau. Mae'r timau gweithredol yn gallu sicrhau bod y trenau priodol yn y lle priodol yn awr i ddarparu gwasanaeth llawn ar gyfer teithwyr ar drenau, yn enwedig ar lwybrau fel Lein y Cymoedd, Dyffryn Conwy, Lein y Cambrian a Gorllewin Cymru. 

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni eisiau diolch i’n cwsmeriaid ni i gyd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd yma. Drwy waith caled ac ymrwymiad ein staff ni, sydd wedi gweithio mwy na 1000 o oriau o oramser, drwy'r dydd a’r nos, rydyn ni’n falch o fod wedi gwella argaeledd ein fflyd ac adfer gwasanaethau.” 

Dywedodd Alison Thompson, Prif Swyddog Gweithredol Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gororau:

“Rydyn ni’n ymddiheuro am y tarfu diweddar i deithwyr ac rydyn ni eisiau diolch i bobl am eu hamynedd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydyn ni wedi gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i gael y gwasanaeth i redeg fel arfer cyn gynted â phosib.”

Nodiadau i olygyddion


Trothwyon Iawndal Ad-daliad am Oedi

Mae gan gwsmeriaid hawl i’r iawndal canlynol, cyhyd â bod cais yn cael ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod, ynghyd â chopi o’u tocyn.

50% o bris tocyn unffordd neu 50% o’r rhan berthnasol o docyn dwyffordd am oedi o 30 i 59 munud

100% o bris tocyn unffordd neu 100% o’r rhan berthnasol o docyn dwyffordd am oedi o 60 munud neu fwy

100% o bris tocyn unffordd neu ddwyffordd am oedi o 2 awr neu fwy

Llwytho i Lawr