Skip to main content

New anti-racism plan to tackle barriers to racial equality

24 Medi 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi ei gynllun gwrth-hiliaeth sy’n nodi sut y bydd y sefydliad yn mynd i’r afael â rhwystrau i gydraddoldeb hiliol o fewn y sefydliad.

Mae gwrth-hiliaeth yn ffordd o herio anghyfartaledd hiliol sy'n cydnabod nad yw hiliaeth yn ymwneud ag ymddygiad unigolion yn unig, ond yn hytrach ag atal patrymau negyddol o wahaniaethu rhag cael eu hatgyfnerthu gan weithredoedd sefydliadau.

Ers 2022, pan lansiwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal digwyddiadau a hyfforddiant rheolaidd i’w gydweithwyr, ei Fwrdd a’i Arweinwyr Gweithredol gyda Race Council Cymru a Diversify World. Mae’r sefydliad wedi penodi 15 o lysgenhadon Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn y gweithle ac wedi annog cydweithwyr i lofnodi Addewid Dim Hiliaeth Cymru.

Mae Cynllun Gwrth-hiliaeth TrC yn gosod strategaeth gynhwysfawr sydd wedi’i datblygu gydag adborth gan Race Council Cymru, i sicrhau bod TrC yn chwarae rhan weithredol mewn atal hiliaeth rhag digwydd, mewn bywyd bob dydd, fel cwsmer, fel aelod o staff neu rhywun sydd isio ymuno.

Mae mesurau fel:

  • gweithio gydag ysgolion i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig,
  • Rhoi mwy o amser ac adnoddau i weithwyr fynychu Grwpiau Adnoddau Gweithwyr i wella cydraddoldeb yn y gwaith,
  • Datblygu adnoddau addysgol, erthyglau a phodlediadau newydd i alluogi cydweithwyr i addysgu eu hunain am anghyfiawnder hiliol, rhagfarn ymhlyg a realiti hanesyddol. 

Drwy roi’r mesurau a nodir yn y strategaeth ar waith, nod Trafnidiaeth Cymru yw deall yn well sut mae hiliaeth yn rhan o’r sefydliad, sut y gallant barhau i’w herio a sut i greu sefydliad sy’n cynrychioli’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Cynllun gwrth-hiliaeth | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

Llwytho i Lawr