Skip to main content

Train 2 Play’ grants launched along the Heart of Wales Line

10 Meh 2026

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru wedi lansio cynllun grant newydd ‘Trên i Chwarae’ i helpu clybiau chwaraeon, cymdeithasau a sefydliadau cymunedol i ddarparu gweithgareddau sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a defnyddio dulliau teithio cynaliadwy.

Gyda'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn agosáu am 1:00yp ar 15 Mehefin 2026, mae grwpiau lleol yn cael eu hannog i wneud cais.

Bydd menter newydd ‘Trên i Chwarae’ diolch i arian gan Trafnidiaeth Cymru yn darparu grantiau hyd at £400. I fod yn gymwys, dylai digwyddiadau cael eu cynnal rhwng 1 Gorffennaf a 31 Hydref 2026 ac o fewn 2 filltir i orsaf ar Lein Calon Cymru.

Gellir defnyddio’r arian tuag at gostau fel llogi canolfannau, ffioedd hyfforddi, offer, hysbysebu a gweithgareddau hyrwyddo. Mae trefnwyr yn cael eu hannog i ddatblygu digwyddiadau sy’n denu cyfranogwyr newydd, cyflwyno gweithgareddau newydd neu greu cyfleoedd mwy hygyrch i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Dywedodd Owen Griffkin, Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru: "Rydyn ni’n falch iawn o lansio’r Cynllun Grant ‘Trên i Chwarae’ a chefnogi sefydliadau sy’n helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol tra’n hybu teithio cynaliadwy ar yr un pryd.

"Mae Lein Calon Cymru yn cysylltu llawer o gymunedau ac rydyn ni am annog mwy o bobl i ddefnyddio’r rheilffordd i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd a digwyddiadau lleol a chreu cysylltiadau cryfach yn y gymuned drwy chwaraeon.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru gyda’n Cronfa Her. Mae menter ‘Trên i Chwarae’ yn enghraifft wych o sut gall ein rhwydwaith rheilffyrdd chwarae rhan yn llesiant y gymuned.

"Trwy gysylltu teithio cynaliadwy â chwaraeon ar lawr gwlad, rydyn ni nid yn unig yn annog dewisiadau teithio gwyrddach, rydyn ni hefyd yn gwneud gweithgarwch corfforol yn fwy hygyrch ac yn dod â chymunedau at ei gilydd.”

Bydd yr holl ddigwyddiadau a ariennir yn cael eu hyrwyddo o dan yr ymgyrch frandio ‘Trên i Chwarae’, a fydd yn rhoi sylw i’r cyfleoedd sydd ar gael drwy ddefnyddio’r rheilffyrdd ac yn annog cymunedau i ddewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.

Datgelwyd y cynllun fel rhan o Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol, dathliad cenedlaethol o’r gwaith mae Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a grwpiau gorsafoedd yn ei wneud i gysylltu cymunedau, cefnogi cynhwysiant a hybu dulliau teithio gwyrddach ac iachach. Mae’r rhaglen grant newydd yn adlewyrchu’r amcanion hynny drwy helpu pobl i gael mynediad at gyfleoedd chwaraeon lleol ar y trên tra’n cryfhau cysylltiadau rhwng y rheilffordd a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

Mae rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a sut i ymgeisio ar wefan Lein Calon Cymru.

www.heart-of-wales.co.uk/cynllun-grant-tren-i-chwarae-wedi-i-lansio 

Nodiadau i olygyddion


Llun – Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, Owen Griffkin (chwith yn y cefn) yn dathlu lansio ‘Trên i Chwarae’ gyda Phêl-fasged Lakers Llandrindod

  • Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol sydd wedi’i hachredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth (DofT) a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd.
  • Mae’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol yn gweithio gyda chymunedau ar hyd Lein Calon Cymru o Amwythig i Abertawe drwy Landrindod.
  • Mae’r Bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sef Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys, sy’n cefnogi’r trydydd sector ledled y sir.
  • Y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yw’r corff aelodaeth ar gyfer partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd ym Mhrydain.