21 Mai 2021
Mae trawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau wedi symud cam arall ymlaen gyda’r trenau Class 197 newydd sbon cyntaf bellach wedi cael eu cynhyrchu.
Mae’r profion wedi dechrau ar y ddau gyntaf o 77 o drenau newydd a fydd yn dechrau cael eu defnyddio o’r flwyddyn nesaf ymlaen ar wasanaethau pell a fydd yn mynd i amrywiol leoliadau sy’n cynnwys Caergybi, Abergwaun a Lerpwl.
Cafodd cregyn y trenau Class 197 Civity eu hadeiladu yn Beasain, gogledd Sbaen, gan y gwneuthurwr cerbydau Sbaenaidd CAF, cyn i’r gwaith cydosod terfynol gael ei wneud yn ffatri’r cwmni yn Llanwern, Casnewydd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd “Wrth i ni ddod drwy’r pandemig a gweithio i gyflawni dyfodol sy’n fwy gwyrdd, mae angen i ni wneud popeth gallwn ni i annog rhagor o bobl i fynd yn ôl ar drefnau.
“Mae gweld y trenau newydd yma’n cael eu cynhyrchu yn arwydd cadarnhaol o wella ansawdd teithio ar drenau yng Nghymru.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n garreg filltir gyffrous bod y trenau newydd sbon cyntaf sydd wedi cael eu hadeiladu gan Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cael eu cynhyrchu ac wrthi’n cael eu profi.
“Bydd y trenau Class 197 yn rhan bwysig o’r gwaith o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu teithwyr ar y trenau newydd o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
“Rydyn ni wrth ein bodd ag ansawdd y trenau ac rydyn ni’n falch bod y gwaith cydosod terfynol wedi cael ei wneud yng Nghasnewydd, gan gefnogi swyddi medrus iawn a dod â rhagor o gyflogaeth i’r ardal.”
Bydd y trenau newydd hyn fwy cyfforddus i gwsmeriaid TrC ac mae ganddynt seddi lledr (dosbarth cyntaf), seddi sy’n gwrthsefyll staeniau a system aerdymheru/gwresogi fodern.
Mae’r trenau Class 197 hefyd yn cynnwys system glyfar ar gyfer cadw seddi. Bydd y seddi sydd wedi cael eu cadw’n cael eu llwytho i lawr o’r cyfrifiadur cadw seddi bob tro bydd criw’r trên yn newid pen ar y trên.
Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF yn y DU, “Mae CAF yn falch o fod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid teithio ar drenau. Mae ein trenau ‘Gwnaed yng Nghymru’ yn rhoi anghenion teithwyr yn gyntaf a byddan nhw’n sicrhau taith gyfforddus, ddibynadwy o safon uchel ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.”
Mae’r ffatri CAF gwerth £30m ym Mharc Busnes Celtic ger Gwaith Dur Llanwern yng Nghasnewydd wedi tyfu o ddim ond 12 o weithwyr yn 2016 i dros 200 heddiw.
Mae profion ar gyfer y ddau drên newydd (197001 a 197002) yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru a gogledd Lloegr ar hyn o bryd.