Skip to main content

Eisteddfod Travel Advice

31 Gor 2024

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn croesawu miloedd o deithwyr i ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.

Cynhelir yr Eisteddfod, sy’n ddathliad o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, rhwng 3 a 10 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Fel partner trafnidiaeth allweddol, mae TrC wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn annog pobl i ddefnyddio opsiynau teithio gwyrdd i gyrraedd y Maes.

Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr gyda’r nos yn ystod yr Eisteddfod ac anogir ymwelwyr sy’n bwriadu defnyddio’r rheilffyrdd i gynllunio ymlaen llaw.

Gall cwsmeriaid gyrraedd Pontypridd ar y trên o wahanol leoliadau. Mae gwasanaethau ar gael o Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert a Chaerdydd sy'n darparu mynediad uniongyrchol i Bontypridd.

Bydd angen i deithwyr sy'n bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rhymni newid yng Nghaerdydd Heol y Frenhines neu yng Nghaerdydd Canolog. Chwiliwch am drenau sy'n teithio i Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert, gan y bydd pob un o’r gwasanaethau hyn yn galw ym Mhontypridd.

Yn ogystal â hyn, gall y rhai sy'n dal y trên o Gaerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd fanteisio ar y gwasanaeth uniongyrchol newydd i Bontypridd.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:

"Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y digwyddiad i'r ardal, ac i Bontypridd yn enwedig, lle mae gennym ein pencadlys.

Er mwyn darparu ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr a ddisgwylir, rydym wedi gweithredu cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys gwasanaethau ychwanegol drwy gydol yr wythnos a phresenoldeb llawer o gydweithwyr ar y rhwydwaith i helpu cwsmeriaid.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr i'r dref ac yn dymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr."

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymrwymo i hyrwyddo ac annog ein hymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth ymweld â'r ŵyl.

Caiff Pontypridd ei gwasanaethu'n dda iawn gan opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy.

Lleolir y Maes funudau’n unig o’r orsaf drenau ac mae'n gyfle gwych i adael eich car gartref a mwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod."

Nodiadau i olygyddion


  • Am y newyddion teithio diweddaraf yn ymwneud â RhCT drwy gydol yr Eisteddfod dilynwch @EisteddfodTI neu cysylltwch â'n tîm ar X: @tfwrail neu Whatsapp (07790 952507) ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â threnau.
  • Mae TrC yn rhedeg cyfanswm o 11 trên o Bontypridd i Gaerdydd ar ôl amser cau'r Eisteddfod (22:15) a 12 trên ddydd Gwener 9fed Awst (Billy Joel).
  • Darperir gwasanaethau ychwanegol hefyd ddydd Sul 4 Awst

Llwytho i Lawr