Skip to main content

Transport for Wales Christmas and New Year travel advice

19 Rhag 2025

Anogir teithwyr i gynllunio eu teithiau dros gyfnod y Nadolig, wrth i waith peirianneg allweddol ddigwydd dros y Nadolig ac yn ystod mis Ionawr.

Ni fydd unrhyw wasanaethau trên na gwasanaethau bws yn lle trên yn gweithredu ar 25 a 26 Rhagfyr. Bydd y gwasanaethau'n gorffen yn gynharach nag arfer ar Noswyl Nadolig ac ar Nos Galan a byddant yn dechrau'n hwyrach ar 27 Rhagfyr.

Ar Ddydd Calan, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth llawn ar y brif linell a gwasanaeth llai aml bob awr ar wasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd (Bro Morgannwg drwy'r Barri, Rhymni, Aberdâr a Merthyr).

Gwaith peirianneg sydd wedi'i gynllunio

  • Rhwng 24-31 Rhagfyr, bydd Network Rail yn ymgymryd â gwaith peirianneg hanfodol i'r gorllewin o orsaf Caerdydd Canolog. Efallai y bydd amseroedd yn newid yn ogystal â rhai platfformau’n newid yng Nghaerdydd Canolog.
  • O 29 Rhagfyr i 1 Ionawr 2026, bydd gwaith peirianneg yn digwydd rhwng Hendy-gwyn ar Daf / Hwlffordd ac Aberdaugleddau.
  • O ddydd Sul 4 Ionawr i ddydd Sadwrn 24 Ionawr 2026, bydd llinell Aberdâr i Bontypridd ar gau. Bydd y cyfnod cau yn caniatáu i'n timau cynnal a chadw wneud gwaith hanfodol o ran diogelwch ar arglawdd yn Aberpennar, sydd wrth ymyl y rheilffordd.

Bydd gwasanaethau fflecsi a TrawsCymru hefyd yn gorffen yn gynharach ar Noswyl Nadolig a Nos Galan ac ni fydd unrhyw wasanaethau'n rhedeg ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan nac ar Ddydd Calan.

Atgoffir teithwyr am y cynnig o docynnau £1 ar ôl 5pm ar lwybrau TrawsCymru drwy gydol mis Rhagfyr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: Tocynnau bws am £1 ar ôl 5yh ym mis Rhagfyr - TrawsCymru

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: "Gyda gwaith peirianneg hanfodol yn digwydd, nid yw cynllunio ymlaen llaw erioed wedi bod yn bwysicach.

"Bydd ein timau ymroddedig yn gweithio drwy gydol tymor yr ŵyl i gadw gwasanaethau i redeg ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau a chael teithwyr i'w cyrchfannau yn ddiogel.

“Rydym yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig ac yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un o'n teithwyr.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cyngor teithio'r ŵyl | Trafnidiaeth Cymru  | Amserlenni dros dymor yr ŵyl - TrawsCymru

Nodiadau i olygyddion


  • Bydd gwasanaethau trên yn dechrau cau o 21:00 ar Noswyl Nadolig a Nos Galan
  • Bydd oriau agor ein timau gwasanaethau cwsmeriaid a chyfryngau cymdeithasol yn newid a byddant ar gau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Dydd Calan:

  • Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn gweithredu rhwng Pontypridd a Threherbert
  • Ni fydd unrhyw wasanaethau Coryton, Penarth na Bae Caerdydd ac ni fydd trenau'n galw yn Ynys y Barri chwaith.

Gwaith peirianneg:

  • Bydd gwasanaethau Maesteg yn gweithredu fel gwasanaeth gwennol rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg yn ystod y cyfnod hwn.
  • Bydd pob gwasanaeth i orllewin Caerdydd Canolog ac oddi yno'n galw ym mhob gorsaf lle bo modd, yn dargyfeirio trwy Barc Ninian (heb stopio) ac yn rhedeg trwy blatfform 4 Caerdydd.
  • Bydd amseroedd trenau sy'n defnyddio dargyfeiriad Parc Ninian yn newid gan ychydig funudau.
  • Bydd gwasanaethau a oedd yn flaenorol yn rhedeg rhwng Tref Glynebwy a Maesteg bellach yn gweithredu rhwng Tref Glynebwy a Chaerdydd Canolog yn unig.

Llwytho i Lawr