04 Meh 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn anfon neges glir i’r cyhoedd - sef Diogelu Cymru a pheidio â defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus oni bai fod gwneud hynny’n hanfodol ac nad oes ffordd arall o deithio ar gael.
Mae diogelwch staff a chwsmeriaid yn brif flaenoriaeth ac mae TrC eisiau sicrhau'r rheini sy’n gorfod defnyddio eu gwasanaethau y bydd digon o le iddyn nhw allu gwneud hynny’n ddiogel.
Mae TrC wedi lansio ymgyrch sydd wedi’i hanelu at ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at sut gall teithwyr gadw eu hunain, staff trafnidiaeth a gweddill Cymru mor ddiogel â phosibl yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Y neges gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw ‘Diogelu Cymru’ ac aros yn lleol.
Mae TrC yn annog y rheini sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddilyn pum prif egwyddor fel rhan o’r ymgyrch Teithio’n Saffach :
- Arhoswch yn lleol - dim ond os oes yn rhaid i chi deithio y dylech chi wneud hynny a pheidiwch â theithio os ydych chi’n sâl, hyd yn oed os oes gennych chi symptomau ysgafn.
- Osgowch y cyfnodau prysur - ceisiwch beidio â chyffwrdd unrhyw arwyneb fel botymau, drysau neu eich wyneb a cheisiwch osgoi bwyta.
- Dilynwch ein cyngor diweddaraf ar deithio, cadwch 2 fetr oddi wrth bobl eraill, golchwch eich dwylo’n rheolaidd ac ystyriwch wisgo gorchudd wyneb.
- Cadwch yn heini wrth deithio – os yw’ch taith yn fyr, ceisiwch gerdded neu feicio os gallwch chi.
- Parchwch ein staff a theithwyr eraill bob amser.
Dros y deg wythnos diwethaf a phan roedd y pandemig ar ei anterth, mae siwrneiau teithwyr ar y rheilffordd wedi disgyn 95% ac mae TrC eisoes wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu’r rheini sy’n teithio, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn weithwyr allweddol.
Mae TrC nawr yn cymryd camau pellach i wella diogelwch gan gynnwys:
- Darparu hylif diheintio dwylo mewn gorsafoedd i helpu gyda glanhau
- Cynnig rhagor o ddewisiadau talu digyswllt, er mwyn lleihau’r cyswllt corfforol rhwng staff a theithwyr
- Gwella’r trefniadau glanhau ar drenau ac mewn gorsafoedd
- Hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol cymaint ag y bo modd drwy osod arwyddion ar drenau ac mewn gorsafoedd
- Gosod uchafswm capasiti ar wasanaethau rheilffyrdd pan fo’n bosibl
- Cefnogi gweithredwyr bysiau gyda chyngor ynghylch sut gallan nhw wella diogelwch ar gyfer gyrwyr bysiau a’r teithwyr
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Ein prif flaenoriaeth drwy gydol yr argyfwng hwn yw diogelwch ein cydweithwyr a’n staff a bydd hyn yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Rydym hefyd yn dilyn yr holl gyngor gan Lywodraeth Cymru a hoffwn atgyfnerthu neges y llywodraeth sef ‘Diogelu Cymru’ a dim ond defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw hynny’n gwbl angenrheidiol ac nad oes gennych chi ddewis arall.
“Byddwn yn annog pawb sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddilyn ein cyngor ‘teithio saffach’. Rydym yn cymryd nifer o gamau i sicrhau ein bod yn gallu gwella diogelwch cymaint â phosibl a byddem yn hoffi i’n cwsmeriaid ddilyn ein cyngor er mwyn ein helpu yn y broses hon. Drwy gydweithio gallwn barhau i gynnal diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid.”