Skip to main content

Travel advice: Saturday 26 November

22 Tach 2022

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus ddydd Sadwrn yma (26 Tachwedd) gan y bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o'r gweithredu diwydiannol ddydd Sadwrn, ond gan y bydd undeb gyrwyr trenau ASLEF a 12 o weithredwyr eraill ar streic, bydd fwy na thebyg y bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar draws y rhwydwaith yn eithriadol o brysur.

Gyda gêm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, cynghorir cwsmeriaid mewn rhai ardaloedd i deithio ar y trên dim ond os oes angen.

Sadwrn 26 Tachwedd

Disgwylir y bydd gwasanaethau rheilffordd TrC yn Ne Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd yn brysur iawn oherwydd na fydd unrhyw wasanaethau Great Western Railway (GWR) yn rhedeg i mewn/allan o Gymru ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.

Er mwyn creu mwy o le ar brif reilffordd De Cymru bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau coets rhwng Abertawe – Caerdydd a Chasnewydd – Caerdydd.  I brynu tocyn coets, ewch i     

Disgwylir y bydd y gwasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd a Cheltenham, Amwythig a Wolverhampton (Gorsaf Birmingham New Street ar gau, felly bydd gwasanaethau TrC yn dechrau/gorffen yn Wolverhampton) a gwasanaethau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn brysur iawn, ac ni fydd unrhyw un o wasanaethau CrossCountry, West Midlands Trains ac Avanti West Coast yn rhedeg o gwbl ddydd Sadwrn 26 Tachwedd.

Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol rhwng:

  • Caerfyrddin a Chasnewydd
  • Caerdydd a Cheltenham
  • Amwythig a Wolverhampton (Gorsaf Birmingham New Street ar gau)
  • Arfordir Gogledd Cymru

Cynghorir cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan TrC, ap ffôn neu ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Taith coets ddwyffordd Big Green Coach

Os nad ydych yn teithio gyda TrC, bydd gwasanaeth coets ar wahân ar gael.  Ar y cyd â chwmni Big Green Coach, y cwmni teithio i ddigwyddiadau mwyaf yn y DU, bydd Undeb Rygbi Cymru yn darparu gwasanaethau coets arbennig i gefnogwyr sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm Cymru v Awstralia.

Mae teithiau bws dwyffordd ar gael o bedwar lleoliad gan gynnwys Bryste, Swindon, Reading a Llundain (King's Cross).  Mae pris tocyn coets dwyffordd yn dechrau o £33, ac mae'r holl goetsis wedi'u hamserlennu i gyrraedd mewn digon o bryd cyn y gêm a byddant yn mynd â'r cefnogwyr adref eto, yn dilyn y chwiban olaf.

Gellir prynu tocynnau ar-lein yn: https://www.biggreencoach.co.uk/events/wales-v-australia-coach-travel-to-principality-stadium-cardiff

 

Llwytho i Lawr