Skip to main content

Travel advice - A series of summer concerts to rock Cardiff

11 Meh 2025

Anogir ffans miwsig i gynllunio eu taith ymlaen llaw i gyrraedd y gigs gan y disgwylir y bydd defnyddio'r trên i gyrraedd y digwyddiadau hyn yng Nghaerdydd yn boblogaidd iawn.

Cyngherddau Chris Brown, Lana Del Rey ac Oasis, fydd yn perfformio dwy noson gyda phob tocyn wedi’i gwerthu, yw rhai o'r sioeau cyntaf ymhlith nifer o gyngherddau proffil uchel a gynhelir yn Stadiwm Principality yr haf hwn. Hefyd, cynhelir perfformiadau mawr yng Nghaeau Castell Caerdydd a Chaeau Blackweir dros y misoedd nesaf, gan gynyddu'r galw am wasanaethau trên ymhellach.

Er mwyn helpu i reoli'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y teithwyr, mae Trafnidiaeth Cymru (TfW) a Great Western Railway (GWR) yn ychwanegu gwasanaethau a cherbydau ychwanegol at wasanaethau presennol i gael cwsmeriaid i ac o'r digwyddiadau yn ddidrafferth.

Dywedodd Georgie Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teithwyr i Gaerdydd ar gyfer haf gwych o ddigwyddiadau.

“Er mwyn sicrhau profiad didrafferth a phleserus i bawb sy'n mynychu'r cyngherddau, byddwn yn rhannu gwybodaeth fanwl gyda chwsmeriaid, gan gynnwys manylion ein systemau ciwio - rydym yn annog cwsmeriaid yn gryf i'w darllen cyn teithio.

"Bydd ein timau ymroddedig hefyd wrth law i helpu teithwyr gyda'u taith.”

Dywedodd Rachel Geliamassi, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid GWR: “Rydym yn falch iawn o gefnogi'r digwyddiadau hyn yn Stadiwm y Principality, a helpu cymaint o bobl i deithio mor gynaliadwy â phosibl.

“Er ein bod yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i ddarparu ar gyfer pawb sydd am deithio, disgwylir y bydd y gwasanaethau hyn yn eithriadol o brysur yn union cyn ac ar ôl y gigs, felly cynlluniwch a gwiriwch ymlaen llaw, yn enwedig os yw’ch taith gryn bellter o Gaerdydd.”

Fodd bynnag, gall peth gwaith peirianneg effeithio ar wasanaethau TrC a GWR (gweler y nodiadau i olygyddion) ac anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith - https://www.journeycheck.com/tfwrail/ 

Bwriedir cwblhau'r gwaith cyn gig Lana Del Ray ddydd Llun 23 Mehefin, lle bydd GWR yn rhedeg dau wasanaeth ychwanegol i gyfeiriad Bryste Temple Meads ar ôl y gig, yn ogystal â thrên ychwanegol i Gasnewydd, a gwasanaethau ychwanegol i Abertawe.

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr Cymru a'r Gororau yn Network Rail: “Rydym yn gweithio'n galed i gadw teithwyr a threnau chludo nwyddau i symud yn ddiogel drwy gydol y flwyddyn.

“O dro i dro, mae ein gwaith yn digwydd ar yr un pryd â digwyddiadau mawr, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau tarfu ar wasanaethau.”

Ar ddechrau taith Oasis, lle mae pob tocyn wedi’i gwerthu, bydd GWR yn rhedeg chwe thrên ychwanegol er mwyn gallu cludo pobl gartref yn ddiogel, gan ddarparu bron i 4,000 o seddi ychwanegol, ar gyfer pob un o'r ddwy noson.

Ar gyfer pob digwyddiad, dylai'r rhai sy'n dymuno teithio ar y trên wirio amser y trên olaf, ac i ganiatáu digon o amser i ddal y trên. Bydd system giwio yn dechrau am 22:00 a bydd y ciw ar gyfer gwasanaethau trên ar y brif lein yn ymgynnull ar Sgwâr Canolog a'r ciw ar gyfer trenau i’r Cymoedd yn ymgynnull yng nghefn yr orsaf.

Cofiwch hefyd newidiadau pwysig i amseroedd agor gorsafoedd ar ddiwrnodau digwyddiadau:

  • Bydd Cyfnewidfa Bws Caerdydd yn cau am 15:00
  • Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 22:00, oni bai bod gan gwsmeriaid ofynion hygyrchedd neu yn teithio i Fae Caerdydd.
  • Bydd Gorsaf Cathays yn cau am 22:00 yn dilyn cyngherddau yn Blackweir yn unig: Bydd mynediad yn parhau ar gyfer gofynion hygyrchedd yn unig ac ar gyfer cwsmeriaid fydd yn dod oddi ar y trên yn unig.

Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn gwirio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiadau.

Nodiadau i olygyddion


Rhwng dydd Llun 9 a dydd Gwener 20 Mehefin, a dydd Sul 29 Mehefin, bydd Network Rail yn disodli trac yn ardaloedd Filton a Stoke Gifford, yn ogystal â chwblhau gwaith arall rhwng Pilning a Thraeth Hafren.

Golyga hyn na fydd trenau uniongyrchol yn rhedeg rhwng Bryste a De Cymru yn ystod y dyddiadau hyn, gan gynnwys ar gyfer Cyngerdd Chris Brown ddydd Iau 19 Mehefin. Dylai cwsmeriaid sy'n teithio rhwng Bryste a De Cymru newid yng Nghaerloyw neu Sba Cheltenham, lle bydd trenau'n dal i redeg i/o Dde Cymru.

Bydd GWR yn rhedeg gwasanaeth ychwanegol rhwng Caerdydd a Bryste Temple Meads (trwy Gaerloyw) ar ôl y cyngerdd, gyda chefnogaeth y gwasanaeth bws yn lle trên.

Llwytho i Lawr