06 Chw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn croesawu cefnogwyr yn ôl i'r brifddinas ar gyfer yr hyn a fydd yn flwyddyn eithriadol arall o ddigwyddiadau uchel eu proffil ac mae’r cwmni’n gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod pob cefnogwr yn cyrraedd y gêm ac yn mynd oddi yno’n ddiogel.
I gefnogi'r miloedd o gefnogwyr sy'n mynd i'r stadiwm, bydd TrC yn darparu capasiti ychwanegol lle bo modd ar lwybrau allweddol ar draws y rhwydwaith. Anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw, gwirio cyn teithio a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu teithiau, gan y gallai gwaith peirianneg effeithio ar rai llinellau.
Mae TrC yn atgoffa pob teithiwr i drin ein staff a'n gwirfoddolwyr â pharch. Mae ein timau'n gweithio'n galed ochr yn ochr â phartneriaid yn y diwydiant i gadw pawb yn symud yn ddiogel, ac ni fyddwn yn goddef cam-drin geiriol nac unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr i’r chwe gwlad. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid ar draws y diwydiant rheilffyrdd i gael cefnogwyr i’r gêm ac oddi yno’n ddiogel.
“Rydym am i bawb fwynhau’r profiad o ddiwrnod gêm rygbi, ac rydym yn gofyn i deithwyr ein helpu i sicrhau hynny trwy gynllunio ymlaen llaw, gwirio eu teithiau a theithio gydag amynedd a charedigrwydd.”
Bydd system giwio lawn ar waith ar gyfer y ddwy gêm gartref gyntaf, Cymru v Ffrainc (dydd Sul 15 Chwefror) a Chymru v Yr Alban (dydd Sadwrn 21 Chwefror). Bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd y brif linell ar waith yn Sgwâr Canolog, tra bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd wedi’u lleoli yng nghefn yr orsaf.
Ar gyfer y ddwy gêm gyntaf hyn, bydd gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines ar gau, gyda mynediad ar gael i deithwyr sydd angen teithio hygyrch a’r rhai sy’n teithio i Fae Caerdydd yn unig. Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd hefyd ar gau yn unol â chyfnodau cau ffyrdd lleol.
Bydd manylion y gêm olaf yn erbyn yr Eidal ar 14 Mawrth ar gael yn fuan wrth i Trafnidiaeth Cymru barhau i gydlynu cynlluniau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Chwe Gwlad 2026 | Trafnidiaeth Cymru
Nodiadau i olygyddion
Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn digwydd yng Nghaerdydd Canolog. Anogir teithwyr i brynu tocyn trên cyn mynd i mewn i system giwio.
Mae Talu wrth Fynd ar gael ar hyn o bryd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a CrossCountry ar draws rhwydwaith Metro De Cymru, er nad yw ar gael ar wasanaethau Great Western Railway (GWR).
Dylai teithwyr sy'n defnyddio'r dull hwn dapio i mewn yn yr orsaf y gwnaethon nhw adael ohoni a thapio allan trwy'r lonydd pwrpasol yng Nghaerdydd Canolog.