Skip to main content

Travel advice for essential engineering works in Swansea area

14 Ion 2026

Cynghorir teithwyr sy'n teithio yn ardal Abertawe i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw gan fod gwaith peirianneg hanfodol yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. 

O ddydd Llun 26 Ionawr i ddydd Sul 8 Chwefror, bydd gwaith uwchraddio strwythurol a gwaith mawr ar gledrau rheilffordd gan Network Rail ar Draphont Glandŵr yn effeithio'n sylweddol ar wasaanethau trên Parcffordd Port Talbot ac Abertawe.

Bydd gwasanaethau a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru a Great Western Railway yn cael eu heffeithio, gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith drwy gydol y cyfnod yr effeithir arno. Bydd amseroedd teithio yn hirach nag arfer, a chynghorir cwsmeriiad yn gryd i wirio cyn teithio.

Newidiadau allweddol 

  • Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Port Talbot – Abertawe - Llanelli o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 30 Ionawr. Bydd y trefnidiau'n amrywio yn dibynnu ar dyddiad y daith, yn enwedig i gwsmeriaid sy'n defnyddio gorsaf Tregŵyr. Bydd gwasanaethau rhwng Abertawe a Llanelli/Gorllewin Cymru yn ailddechrau o ddydd Sadwrn 31 Ionawr.
  • Bydd gwasanaethau Great Western Railway i Lundain ac oddi yno'n dechrau ac yn gorffen ym Mhort Talbot, gydag amserlenni diwygiedig ar waith. 
  • Bydd gwasanaethau Lein Calon Cymru yn gweithredu i Gaerfyrddin ac oddi yno, gyda newidiadau ychwanegol ar 27 Ionawr.
  • Bydd gwasanaethau rhwng Llanelli – Caerfyrddin – Aberdaugleddau / Doc Penfro / Harbwr Abergwaun yn rhedeg yn ôl amserlenni diwygiedig.

Bydd gorsaf Abertawe yn parhau ar agor, gyda mynediad at gyfleusterau tocynnau, toiledau a chyfleusterau bwyd a diod.

Newidiadau ychwanegol ar gyfer y penwythnos 

  • Dydd Sadwrn 31 Ionawr – Dydd Sul 1 Chwefror: Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Caerdydd Canolog – Pen-y-bont ar Ogwr – Abertawe. Bydd gwasanaethau Maesteg – Caerdydd yn galw ym mhob gorsaf leol rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Dydd Sul 8 Chwefror: Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Caerdydd – Pen-y-bont ar Ogwr – Port Talbot.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pob cwsmer i wirio manylion eu taith cyn teithio, gan y gall amseroedd teithio fod yn hirach a gall cysylltiadau fod yn wahanol i'r arfer.

Bydd gwybodaeth wedi’i diweddaru ar gael drwy wefan TrC, ap TrC, cynllunwyr teithiau a hysbysiadau gorsafoedd.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r gwaith hanfodol hwn gan Network Rail yn fuddsoddiad pwysig wrth wneud y rheilffordd yn fwy dibynadwy am flynyddoedd i ddod.

“Rydym yn gwybod y gall unrhyw darfu fod yn rhwystredig, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid am fod yn amyneddgar gyda ni tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.”

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr Cymru a'r Gororau Network Rail: “Rydym yn cynnal gwaith hanfodol i adnewyddu’r cledrau ac i adnewyddu Traphont Glandŵr ger Abertawe er mwyn gwella dibynadwyedd y rheilffordd ar gyfer gwasanaethau teithwyr a nwyddau.

"Er mwyn cwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel, mae angen i ni gau’r rheilffordd rhwng Parcffordd Port Talbot ac Abertawe o ddydd Llun 26 Ionawr i ddydd Gwener 6 Chwefror, ac eto drwy’r dydd ddydd Sul 8 Chwefror, gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r gwaith hwn wedi'i gynllunio ymhell ymlaen llaw, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr trenau i sicrhau bod trefniadau teithio amgen ar waith i deithwyr.

“Mae’n ddrwg gennym am y tarfu y bydd hyn yn ei achosi a hoffem ddiolch i deithwyr am eu hamynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn.”

Nodiadau i olygyddion


  • Am ragor o wybodaeth ac i gynllunio eu taith, gall cwsmeriaid fynd i: Tudalen we gwaith peirianneg TrC: Gwaith Peirianyddol | TrC neu Gynlluniwr Teithiau Ymholiadau National Rail  
  • Gweithredir gwasanaethau Llundain gan GWR (Great Western Railway). 

Llwytho i Lawr